Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

claddwyd

claddwyd

Y mae'n ddiamau mai yn nhemlau Angkor y claddwyd eu gweddillion ac y cedwid y cof amdanynt hwy ac am ogoniant eu cyfnod.

Claddwyd ef ym Mynwent Glanadda, Bangor ar ddechrau'r chwedegau.

Claddwyd y ddau yn yr un bedd.

Dywedir i'r sawl a agorodd yr arch y tro hwn deimlo'r corff â'i ddwylo yng ngolwg yr ardalwyr, ac 'roedd yn amlwg fod y croen a'r cnawd mor ddilwgr â'r dydd y claddwyd hi.

Claddwyd y gweddillion ym mynwent Pencoed.

Claddwyd Ann Parry gyda'i gwr ym Mynwent Eglwys Llanrhaeadr, a digwyddodd rhywbeth hynod iawn ynglŷn â gweddillion corff y wraig hon.

Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Eglwys Llangynwyd.

Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.