Trwy gyhoeddi'r mesurau yma fe gyfaddefodd y llywodraeth fod mwy o achosion o'r clafr ers dileu'r orfodarth i drochi defaid.
Rhoddwyd terfyn ar drochi gorfodol gan y llywodraeth ddwy flynedd yn ol ac y mae pob corff sy'n ymwneud a defaid wedi condemnio cynnydd yn y clafr a ddigwyddodd oddi ar hynny.
Mae'r Undeb yn credu'n gryf y dylai'r clafr barhau i fod yn glefyd sydd raid ei hysbysu i'r awdurdodau ac y dylai fod pwerau i rwystro symud defaid er mwyn gallu trin diadelloedd sydd wedi eu heintio.
Mewn llythyr at Mrs shepard, dywedodd Mr Bob Parry, Llywydd UAC, bod yr Undeb yn bendant o'r farn y dylid ail-gyflwyno mesurau gorfodol i reoli'r clafr oherwydd cynnydd y clefyd.
Erbyn heddiw mae modd rheoli'r pryfyn trwy chwistrellu neu dywallt gwenwyn pryfed ar y cefn ond erys trochi'r defaid mewn cymysgedd o ddŵr a'r gwenwyn priodol am funud cyfan y ffordd fwyaf o gaw'r clafr dan reolaeth.
Pryfyn bach nad oes modd ei weld ond a chwydd wydr sydd yn achosi'r clafr.
Cyfaddefwyd hefyd y gallai'r clafr achosi problemau masnachol difrifol i ffermwyr ac i'r diwydiant lledr.
O BEN Y DALAR: Mae ymdrechion yr undebau amaeth i gael yr Ysgrifennydd Gwladol, John Redwood, a'r Gweinidog Amaeth, Gillian Shepard, i ailgyflwyno dipio gorfodol ar gyfer clafr ar ddefaid yn cael peth gwrandawiad.
Ym mis Mai cyhoeddodd y llywodraeth fesurau i gynyddu'r gofal yn y marchnadoedd gan fynnu bod defaid yn dioddef o'r clafr yn cael eu cludo oddi yni i'w trin.