Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clasurol

clasurol

Yn ddiweddar cafodd enwi'n artist gwryw gorau yng Ngwobrau Clasurol y Brits.

Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.

Megis yn achos gwyddoniaeth, nid un fiwsig sydd, ond amryw fathau arni: y clasurol a'r ysgafn, yr offerynnol a'r lleisiol, cerddoriaeth gyfoes a cherddoriaeth gynnar, gan gynnwys caneuon ac alawon gwerin ac yn y blaen.

Dilyn rhaeadrau oedd fy ngwaith yr ochr draw, saith milltir o raeadrau rhwng copa'r bwlch a phentref bach Susauna, a milltir ar ben milltir arall o raeadr a phistyll yn ymuno a phrif afon y cwm o grognentydd clasurol, o'r pantiau eira disglair y tu ol i'r cymylau, ac o lasierau cudd Piz Vadret.

a chamarweiniol yw'r dyb boblogaidd mai clasurol yw traddodiad llenyddol Cymru.

Nis derbynnid gan y cyfundrefnau cynnar clasurol gan na Groegiaid na Chymry.

Dros amser, fe drodd dyneiddiaeth o fod yn fudiad a nodweddid yn bennaf gan barch at ddysg yr Hen Fyd, mudiad a wreiddid yn arbennig yn y diwylliant Lladin clasurol, i fod yn fudiad a oedd yn hybu'r ieithoedd brodorol, ac, i raddau llai, ddiwylliant brodorol yn ogystal.

Ond, yn ôl y patrwm clasurol, daeth llwyddiant gyda'r drydedd ymgais, diolch i gwrteisi a huodledd Gwalchmai.

Ar y cyfan, felly, mae'n drawiadol cyn lleied o ddylanwad clasurol a fu ar y rhan fwyaf o farddoniaeth Gymraeg, a naturiol yw chwilio am esboniad ar hyn.

Nid oeddynt wedi dechrau chwilio am gyfatebiaethau rhwng y traddodiad Cymraeg a'r un clasurol, fel y gwnaethpwyd o bryd i'w gilydd yn nes ymlaen.

Gellid disgwyl y byddai'n dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth glasurol - cyfoes glasurol - ond clasurol, serch hynny.

Glynai Williams yn dyn wrth ddatganiadau clasurol yr Eglwys Fore, a bwysleisiai fod Iesu Grist yn wir Dduw ac yn wir ddyn.

Mae tua 16 o ganeuon ar y gweill - a falle fydd hi'n syndod i gael clywed ambell diwn indie a hyd yn oed unawd clasurol ar y gitar yng nghanol y perlau ska-reggae-rock bywiog ac anarferol sydd gan y grwp.

Y mae'n ei wrthgyferbynnu gyda beirdd clasurol y traddodiad mawl, hwynt-hwy yn eu cyrndeithas' sefydlog a threfngar' yn dal mai' peth qmdeithasol' oedd barddoniaeth; a Williams yn fardd' ei brofiadau'i hun'.

Cafodd ei ddewis yn Artist Gwryw Clasurol Gorau Prydain a chanu o flaen 110,000 o ddilynwyr rygbi yn Sydney cyn gêm Awstralia'n erbyn Seland Newydd.

Pan ddechreuodd beirdd Cymru geisio efelychu patrymau clasurol yn y ddeunawfed ganrif, o dan ddylanwad Seisnig o bosibl, mae'n werth sylwi iddynt ddewis ffurfiau gn amlaf nad oedd dim yn cyfateb iddynt yn union yn y traddodiad Cymraeg, fel y fugeilgerdd, yr arwrgerdd neu'r epistol barddonol.

Cydfodolai'r ymchwil am wreiddiau dysg yn y traddodiad clasurol a grymoedd eraill: yr awydd am weld dysg debyg yn blodeuo yn eu hieithoedd eu hunain, a'r awydd hefyd am ledaenu dysg i'r cyffredin.

Ar yr un pryd, rhoes ei hyfforddiant mewn Lladin fynediad rhwydd iddo i drysorau byd clasurol Rhufain.

Yn yr amgylchiadau nid syn yw clywed fod Daniel Owen wedi dechrau colli ei gwsg yn ceisio barddoni er mwyn cipio'r llawryf mewn gwahanol gystadlaethau: Nid oes edefyn cyson o ddylanwad a dynwarediad clasurol yn rhedeg trwy leynyddiaeth Gymraeg, o'r math sydd yn hawdd ei ganfod mewn llenyddiaethau eraill megis y Saesneg, y Ffrangeg neu'r Almaeneg.

Yng Nghymru, er mwyn apelio at gymaint o bobl â phosib, mae'r cwmni%au recordiau wedi gorfod rhyddau cynnyrch gan sbectrwm eang o artistiaid, o ganu pop a chanu canol-y-ffordd i'r corau a'r cantorion clasurol.

Pechod yw sylwedd y nofelau clasurol...

Ni pharhaodd y mudiad clasureiddio hwn am fwy nag un genhedlaeth, serch hynny, ac ni welir fawr o ddylanwad clasurol ar farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg, onid yn anuniongyrchol efallai trwy ddylanwad Goronwy Owen a'i gyfoeswyr.

Penderfynodd ofyn i Gaplan y carchar am rai llyfrau clasurol Saesneg.

Wel, hanes cyfoethog, atyniadau diddorol a diwylliant bywiog sydd wedi cynhurchu rhai o sêr action, canu clasurol ac adloniant ysgafn enwoca' Cymru.

Edrychid ar ddiwylliant clasurol yn gyfrwng gwasanaeth ac yn sail y bywyd gweithredol y disgwylid i'r bonedd ei fabwysiadu.

Anfonodd i'r Hen Wlad am lyfrau clasurol Cymraeg a Saesneg, i mi, pan aeth cyfaill oddi yma am dro yno.

Y maen'n wir i lawer o'r addysg honno gael ei thraddodi trwy gyfrwng y Saesneg, ac y mae'r Athro J Gwyn Griffiths yn ystyried fod hyn yn cyfrif am y prinder dylanwad clasurol a welir mewn barddoniaeth Gymraeg.

Ers diwedd Tachwedd bu Strasbourg yn disgrifio ei hun fel Dinas y 'Dolig ac yn darparu llu o gyngherddau clasurol a chrefyddol.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Er enghraifft, yr oedd y dysgedigion, gwyr y Dadeni, yn falch odiaeth o'r Gymraeg fel un o'r ieithoedd clasurol; ond ar yr un pryd canmolai rhai ohonynt, megis William Salesbury, ymdrech Henry VIII i wneud y Saesneg yn iaith gyffredin rhwng y Cymry a'r Saeson.

Dyma l'e/ tranger clasurol yr ugeinfed ganrif, y person modern sy'n gorfod ceisio gwneud synnwyr o fywyd heb gymorth na chanllaw moesol diogel na chysur ffydd na chymdeithas safadwy.

Gwelodd yn glir fod popeth a gynhyrchai'r Eisteddfod yn niwedd y ganrif ymhell iawn oddi wrth safonau clasurol Cymru mewn iaith a chelfyddyd, ac ymhell hefyd oddi wrth safonau prif feirniaid y byd.

Felly, nid yw'r prinder dylanwad clasurol yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg yn dangos o reidrwydd iddynt fod yn anghyfarwydd â'r clasuron, neu yn elyniaethus iddynt; gallai olygu yn unig nad oeddynt yn teimlo'r angen i'w dynwared.

Yn ei Salmau Cân yn ogystal ag yn ei gywyddau ymryson â William Cynwal ac eraill dengys Edmwnd Prys ei lwyr feistrolaeth ar Gymraeg clasurol yr hen feirdd.

Ar yr ieithoedd clasurol yr oedd y pwyslais.

Enghreiffliau clasurol o'r adar sydd yn dod yma ydi'r wydd ddu o Sibiria, yr wydd wyrain o'r Ynys Werdd, elyrch o Ynys yr Iâ a Gogledd Llychlyn, a miloedd o rydyddion o'r gwahanol rannau gogleddol, fydd wedi rhewi'n gorn yn ystod y Gaeaf.

Yr oedd yn ysgolhaig gwych ac yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol ac ieithoedd diweddarach.

Yr oedd y traddodiad Cymraeg, felly, yn un a oedd yn meddu ar holl nodweddion traddodiadaol clasurol, ond hefyd yr oedd yn fyw ac yn dal i ymestyn a datblygu..