Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clefyd

clefyd

Mae meddygaeth lysieuol yn ei ddefnyddio i drin anhwylderau'r iau, y clefyd melyn, y gymalwst, cryd cymalau, rhai anhwylderau'r arennau ac i rwystro neu ddileu cerrig y bustl.

Yn Ffrainc cyfrifir sicori'n fwyd hanfodol i'r sawl sy'n dioddef o'r clefyd melyn.

Wrth edrych ar ei byd masnachol, mae rhywun yn gallu cael darlun o natur cymdeithas LA Awgryma clefyd y 'coupons' di-ri am rhyw sentan neu ddwy i ffwrdd oddi ar fwyd, nad yw bywyd yr Americanwr cyffredin yn fêl i gyd, er waetha' delwedd y teulu bach llewyrchus.

Ac er bod y mwyafrif yn dal i drochi eu defaid mae'r ychydig sy'n methu gwneud hynny yn tanseilio'r ymdrechion hynny ac yn lledaenu'r clefyd.

Achosir clefyd Addison gan nam yn y chwarennau uwcharennol sy'n cynhyrchu cortison.

Cafodd 'madael â'r clefyd, ac â phopeth arall a feddai.

Yn fy marn i, mae dau reswm fod y clefyd wedi cael cymaint o afael mewn cyfnod pan rydd gwyddoniaeth fesurau mor effeithiol i reoli afiechydon.

Mewn llythyr at Mrs shepard, dywedodd Mr Bob Parry, Llywydd UAC, bod yr Undeb yn bendant o'r farn y dylid ail-gyflwyno mesurau gorfodol i reoli'r clafr oherwydd cynnydd y clefyd.

Uchafbwynt lluniaeth yr wythnos (sylwch ar y clefyd o'r ymadrodd ffasiynol newydd i olygu pethau ar y teledu!) wrth gwrs oedd y telynathon o'r HêndyGwyn-ar-Dâf.

Gwelir enghreifftiau o hyn gyda'r Clefyd Hodgkins, Lewcemia, a thriniaeth ymbelydrol, ac yn y blaen.

Ro'n i'n dioddef yn arw o'r clefyd, nes imi gael gweledigaeth.

'Roedd holl ddelwedd Kennedy'n seiliedig ar nerth ac atyniad ieuenctid ond y gwir yw ei fod yn dioddef o afiechyd gwirioneddol ddifrifol, sef clefyd Addison.

'Mae nifer helaeth o broblemau iechyd, yn amrywio o'r clefyd siwgwr i glefyd y galon, yn gysylltiedig â bod yn rhy drwm.

"Yn ôl Doctor Wills, mae'n debyg fod 'clefyd y galon' wedi bod yn 'i flino fe ers peth amser, er na wydde neb yma ddim byd ...