A chorff gwirfoddol wedi ei recriwtio o blith y meistri tir a'r clerigwyr oedd hwn.
Y peth sy'n drawiadol am y traddodiad Cymreig yw'r argyhoeddiad fod y gwerthoedd a'r safonau sy'n ysbrydoli'r rheolau'n rhai ar gyfer gwerin gwlad, nid yn unig ar gyfer clerigwyr, mynachod a lleianod.
Doedd dim gwyr bonheddig yn trigo o fewn yr ardal, ac yno doedd neb ond clerigwyr i lenwi'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd.
Yn fwyfwy o hyn allan dim ond y clerigwyr hynny a raddiodd mewn diwinyddiaeth a fu'n astudio'r Beibl.
Ac ar y llaw arall, yr oedd ar y mwyaf o Biwritaniaid selog nid yn unig ymhlith y clerigwyr ond ymhlith yr uchelwyr hefyd nad oeddent yn colli'r un cyfle i greu pryder trwy geisio diwygio'r Eglwys.
Ond ymrôdd hefyd i wella safon addysgol clerigwyr ei esgobaeth, a rhan o'r ymroi hwnnw oedd ei ymgyrch i sefydlu coleg i hyfforddi darpar offeiriaid yn Llanbedr Pont Steffan.
Fe ddaw ei eiriau am y rhan o wisg pen Rhiannon a ddylasai guddio'i hwyneb ag adlais o gynghorion Tertullian ar wisg gwragedd, a llenni'n arbennig, a hefyd o eiriau canon y chweched ganrif sy'n gorchymyn i wragedd clerigwyr wisgo llenni.
Priodolai Burgess hyn yn rhannol i Seisnigrwydd yr Eglwys Wladol ac anallu ei chlerigwyr i bregethu yn Gymraeg, a gwnaeth ei orau i osod clerigwyr Cymraeg eu hiaith mewn plwyfi Cymraeg.
Yr oedd hefyd eisiau amod y byddai'r clerigwyr (gweision suful eu dydd) a gâi eu penodi yn medru'r Gymraeg, ac yr oedd galwad ynddo hefyd am ddwy Brifysgol i Gymru, yn hytrach na chorffori sefydliadau Cymraeg gyda sefydliadau Saesneg.
Y gwir yw fod cyfeillach Northampton yn bygwth datblygu'n rhywbeth mwy na chylch trafod oherwydd ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd âi'r brodyr ymlaen i ystyried unrhyw lithriadau moesol neu wendidau ysbrydol a geid ymhlith y clerigwyr.
Amherchid y clerigwyr a'r aelodau cyffredin.