Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.
Wrth agor yr iet, a throedio trwy'r stecs sy ym mhob adwy, maen clo ar waith y dydd oedd canfod ymysg olion mynd a dod ôl olaf y fuwch ddi-ras na ddychwelai mwy.
Hyhi, yn ôl ei charedigion, oedd y maen clo ym mwa tegwch y Cymry.
Gwelwyd o brofiad fod ffeiliau bwa-lifer neu ffeiliau clo-crwn gyda rhestr gynnwys a rhaniadau wedi eu labelu yn ffordd dda o gadw'r gwaith mewn trefn.
Nodyn chwerw-drist a glywir yn y geiriau, a daw i gof linellau clo cerdd arall gan R.
.' Yna mae trefn gystrawennol y darn yn chwalu i gyfleu anhrefn y darlun digrif nes y down at y diwedd, pan dry'r frawddeg yn ôl arni ei hun er mwyn y clo: .
Dyna pryd y dechreuais ama' bodolaeth Santa Clôs...
Yn nhîm Llanelli mae'r wythwr Scott Quinnell a'r clo Chris Wyatt yn cael gorffwys a'r maswr Stephen Jones fydd y capten.
Y sylw clo sy'n allweddol.
Williams Parry yn ei soned iddo, gellir ystyried chwechawd clo honno yn ddisgrifiad cyffredinol o'r dyn: Hen arglwydd ansoddeiriau a thwysog iaith, Pa fath wyt ti, neu o ba gymysg dras Pan yw pob dychan a phob can o'th waith Yn llawn o ryfel ac yn llyn o ras, O saint a phariseaid, moelni a moeth Llesmeiriol ymchwydd ac uniondra noeth?
Yn dilyn tymor disglaer gyda Glyn Ebwy, roedd y clo Deiniol Jones yn chwarae ei gêm gynta i Gymru.
Gan nad yw'r cwrs cyntaf yn agored i neb ond y sawl sy'n credu yn y tylwyth teg ac yn perthyn gwaed i Santa Clôs, anghofiwch amdano.
Cafodd dipyn o drafferth efo drws y garej yn gwrthod cau - roedd o wedi sôn droeon wrth y giaffar ac wrth Mrs Rowlands am gyflwr y clo yna - ac felly roedd hi bron yn bum munud ar hugain i wyth pan drodd o'r gornel i mewn i stad Llys y Gwynt ac roedd Elfed wedi gwylltio braidd efo Elsie Williams a'i chriw.
Tynnodd yr allwedd o'i phoced ond cyn ei rhoi yn nhwll y clo canodd y gloch fel y gwnâi bob tro ym mhob tŷ i ddangos ei bod wedi cyrraedd.
Datgymalodd y clo rhyngwladol, Ian Gough, ei ysgwydd yn ystod y gêm.
Aeth y 'golau tan glo' yr oedd mam Gwenno yn gwau hosan wrtho pan oedd Huwcyn yn edrych 'trwy dwll bach y clo' yn olau llachar bylb trydan yn crogi o ganol y nenfwd.
Fydd Caerdydd ddim yn enwi clo Abertawe, Tyrone Maullin, wedi tacl uchel dorrodd ên a thrwyn asgellwr Caerdydd, Paul Jones, yn y gêm yng Nghynghrair Cymru a'r Alban ar Sain Helen.
At hynny, ychwnegwyd dau bennill cwbl newydd o flaen y pennill clo:
chan fod gan Fiet Nam gysylltiad clo\s â Moscow bryd hynny, roedd biwrocratiaeth yn rheoli pob dim.
Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.
Wrth wrando ar y llu o atgofion a oedd gan Mrs Parry 'roedd hi'n anodd meddwl sut y gallwn ni yn Rhos oddef gweld clo ar ddrysau'r Stiwt, a bodloni ar weld canolfan gerddorol yn chwalu, a theatr fendigedig yn mynd a'i ben iddo - 'Dim ond y gorau sy'n ddigon da???'