Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cloddio

cloddio

Darganfuwyd gwaddodion helaeth o olew, nwy a glo dan y môr; gellir cloddio mwynau gwerthfawr megis gro, tun, manganis, copr a hyd yn oed ddiamwntau o'r môr.

Does dim eisio cloddio'n rhy ddwfn i'w darganfod.

GWARCHOD NATUR, DAEAREG A'R TIRWEDD: Gall cloddio mwynau gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar warchodaeth natur ac ar adnoddau tirweddol Gwynedd, o ran colled neu ddirywiad cynefinoedd lled-naturiol a newid tirweddau, tirffurfiau a defnyddiau tir traddodiadol.

Nodir pum peth sy'n llygru bywyd ysbrydol Cymru: y gwersylloedd gwyliau yng Ngheredigion, y cloddio am olew ym môr Iwerddon, y rocedi yn Aber-porth, yr orsaf niwcliar yn Nhrawsfynydd, a'r ymchwil am aur yn Sir Feirionnydd.

Os nad oes gwybodaeth am safle'r llongddrylliad fel system ar gael, gall cloddio ddinistrio mwy o dystiolaeth nag y gall ei ddatgelu.

DEFNYDD YNNI A THRAFNIDIAETH: Mae cloddio a chludo mwynau yn golygu gwario ynni sylweddol, a'r gwaith o'i gynhyrchu a'i ddefnyddio, ynddo'i, hun â goblygiadau ar yr amgylchedd.

Cyfaddawdu a wneir yn aml wrth ddefnyddio ffrwydron i gloddio yn lle cloddio hir a llafurus â llaw.

Cloddio i lawr ac i lawr nes iddyn nhw ddod at gorff anymwybodol Ivan.

I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.

GWERTHUSO: Fodd bynnag, nid llwyr negyddol yw effaith cloddio mwynau ar yr amgylchedd.

RHEOLI GWASTRAFF: Gall is-gynhyrchion cloddio mwynau gael effeithiau andwyol sylweddol os na chânt eu hail-ddefnyddio, eu hail-brosesu neu eu gwaredu'n ddiogel ac mewn modd heb fod yn rhy amlwg.