Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clogwyn

clogwyn

Roedd Jabas wrthi'n brysur yn tynnu lluniau, a chyda'r lens sbienddrychol diweddara a gafodd gan Ab Iorwerth credai ei fod yn cael lluniau gwych o hen simne'r gwaith yn syth uwchben yr ogof ar y clogwyn.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

A'i lais yn fflat a diemosiwn, canolbwyntiai ar geisio cadw'r car rhag gwyro oddi ar ffordd gul, droellog ar hyd yr arfordir a disgyn dros y clogwyn serth i'r môr.

Cerddodd y ddau ar hyd y llwybr ymhellach o'r pentref i gyfeiriad Clogwyn Arthur, craig fawr oedd yn codi uwchben Pwll Mawr.

Ar ben Clogwyn Arthur roedd dau ddyn yn gwylio'r bechgyn.

Byddai gan yr oruchwyliaeth nifer o raffwyr profiadol a medrus wrth law i archwilio wyneb y 'Ceiliog Mawr' a'r 'Negro' a mannau eraill lle byddai dyfnder mawr wedi i nifer o bonciau fynd yn 'un dyfn',John Morgan, Nant Peris, fyddai'n rhaffu'r clogwyn anferth a godai o Sinc Hafod Owen hyd at 'New York' .

Uwchben yr haenau du yma o esgyrn mae carreg galch a sial y creigiau Lias i'w gweld, ac yn wir, mae yna lwybr o'r traeth sy'n arwain i fyny'r clogwyn ar y garreg galch.

Pwyntiodd ei dad â'i fys at y clogwyn tywyll fry uwch eu pennau.

Yn “l yr hanes roedd y Brenin Arthur wedi cuddio mewn ogof yn y clogwyn pan oedd yn dianc ar “l colli brwydr.

'Mae'n ddrwg gen i 'mod i wedi dychryn a rhedeg i ffwrdd y noson imi'ch gweld chi ar y clogwyn.

Tybiais taw doethach fyddai ei gynnal ar y clogwyn yn y man lle buoch yn ymgynnull y noson o'r blaen.

Ymestynnai'r ffordd dros y rhostir at ben y clogwyn yn unig ac yn wag yn nhywyllwch y nos.

Ar unwaith anfonwyd cwch i aros yn y môr gerllaw'r clogwyn, a rhuthrodd ambiwlans drwy'r lonydd cul gyda thîm achub ynddi.

Mae'r haearn sydd heb rydu yn y creigiau yma i'w weld yn y lliw gwyrdd-lwyd, sydd ar ambell haen yn y clogwyn - sef y 'Marl Tê Gwyrdd'.

Gellwch gasglu'r alabaster sydd wedi syrthio o'r clogwyn ar y traeth.

Gartref, yng Nghymru, bum yn gwylio'r haul yn machlud o ben clogwyn yn Eryri y tro hwn.

Ro'n i'n un o'r rhai a aeth i ben y clogwyn y noson o'r blaen i weld y ddrychiolaeth roedd Helen wedi'i gweld.

Mae'r alabaster (neu halen gypsum) a ddefnyddir i wneud 'plastar of Paris' i'w weld yn haenau tenau yn y clogwyn o farl coch Keuper.

Yno, dau can troedfedd uwch ei ben, roedd clogwyn.

O ben y clogwyn gellwch weld draw dros Fôr Hafren at Wlad yr Haf neu eistedd ger y garreg galch i edrych am esiamplau o'r wystrysen 'Liostrea'.

Y clogwyn hyn yw muriau gwarchod y wlad.