Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cloriau

cloriau

I Ankst, mae delwedd y cynnyrch a aiff i'r siopau yn bwysig; dyna pam y maent yn mynnu cael cloriau lliw llawn, yn y gred bod rhaid apelio at y llygad yn ogystal â'r glust.

Teimlaf wefr bob tro y deuaf o hyd i rywogaeth nas gwelais o'r blaen ond rhwng cloriau llyfr.

Eithr ysgrifau ydynt a gyhoeddwyd eisoes rhwng cloriau caled, nad yw'n rhy anodd dod o hyd iddynt.

Fe gewch o fewn cloriau'r rhifyn hwn o'r Bont rhyw arwydd bychan o'r goleuni a'r llwyddiant hwn.

I'r mwyafrif o bobl, rwy'n siŵr mai braidd yn sych yr ymddengys llawer o'r llenyddiaeth uchod (er fod enwau hir a phert yr anifeiliaid yn gallu bod yn hwyl), ond i'r sawl sydd a gwir ddiddordeb mae pori rhwng cloriau'r cyhoeddiadau hyn yn dod ag oriau o bleser amheuthun, er efallai mai ansylweddol yw eu ffurf.

Cewch drafodaeth ar y gwahanol gynigion a chyflwyniad i aelodau newydd y Senedd rhwng cloriau'r rhifyn hwn o'r Tafod. Un peth sydd yn codi yn syth yw'r penderfyniad i newid dyddiad y Cyf Cyff i'r Gwanwyn.

Ers cyn cof bron mae'r grwp wedi creu cloriau unigryw ac yn meddwl o hyd am ffordd o wneud eu cds yn rhai cofiadwy.

Y gwir yw ein bod, yn ein hanwybodaeth a'n hadwaith yn erbyn oes orgrefyddol, yn tueddu i ddibrisio crefyddwyr y ganrif o'r blaen, gan eu gweld fel pobl sych, anymarferol; bu'n well gan lawer ohonom eu gadael ynghwsg rhwng cloriau cofiannau ac esboniadau llychlyd ein siopau llyfrau ail-law.

Does dim yn y byd yn rhoi mwy o foddhad i mi na chychwyn ar siwrnai hir a gwybod y gallaf ymgolli'n lân rhwng cloriau llyfr da.