Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clos

clos

Ac yn raddol, fel y datblygai'r ddealltwriaeth hon, aeth yn agosach at y pwynt lle gallai droi'n ôl at ei brofiad cynnar, a'r bywyd clos, cyflawn, yr oedd yn ei weld erbyn hyn trwy lygad plentyn a llygad dyn.

A bu cymaint o alw am leoedd yn yr Ysgol Santas Clôs yn Llundain y maen nhw wedi bod yn troi pobl i ffwrdd yn dilyn blynyddoedd digon tawel cyn hyn.

Trefnir y staff mewn adrannau, a chyd-drefndir y gwaith gan raglen o gyfarfodydd adran, rhyng-adrannol a staff, gyda chysylltiad clos rhwng pob adran a'r is-bwyllgorau rheoli sy'n gyfrifol am yr agwedd honno o waith y Gymdeithas.

Wrth gau iet y clos meddyliwn, ni ddoi di'n ôl trwy hon.

Fe'm trawyd heno, wrth edrych o gwmpas y clos, mor wag ac mor ddistaw oedd y sgubor.

Ie'n wir, bydd gan ddyn ddigon i fyfyrio arno'n ddiddig nes dychwelyd at iet y clos.

Difwynodd fwy nag un clos pen glin â'i charnau bawlyd.

"Mi weles i e'n mynd drwy'r clos pan o'wn i'n dod allan o'r tylcie moch, a sgidie tŷ am ei draed e a'i got ar agor yn hedfan

Golygodd y datblygiad gydweithio clos rhwng gwyddonwyr o gefndiroedd tra gwahanol yn ffisegwyr, cemegwyr, metelegwyr, a pheirianwyr electroneg, ac mae'r cydweithio hwn yn parhau i fod yn un o nodweddion y maes hyd heddiw.

Rhywbeth yn debyg yw aduniad mewn coleg, ond bod yr adnabyddiaeth yno'n datblygu'n rhywbeth mwy clos a pharhaol weithiau.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Ond wrth i'r misoedd fynd heibio fe ddaeth hi i arfer a'i weld yn mynd heibio i iet y clos.

Yn anffodus o safbwynt yr ast a'i pherchennog roedd Cadwgan, mab bychan y ty, wedi cael chwisl din gan Santa Clos.

"Bobol annwyl!" meddyliodd yr hen wraig, gan dynnu'r cwrlid yn fwy clos dros ei chlustiau, "Pwy uffarn sydd yna yr adeg hon o'r dydd?" Gan mai ei bwthyn hi oedd yr adeilad cyntaf yn y pentref o gyfeiriad y môr, roedd Morfudd wedi hen arfer bellach â dieithriaid yn galw heibio i holi'r ffordd, neu i fegera am baned o de a chrempog.

Mae llun Y Ffin a berfformiwyd yn Eisteddfod Dyffryn Clwyd yn cynnig darlun o gyfeillgarwch clos sy'n cael ei herio a'i falu gan eiddigedd rhywiol.

Ar lan y llyn mae rhai tai reit solet, wedi eu hadeiladu a brics cochion, ac yna strydoedd clos o dai sy'n gymysgedd o frics a mwd.

Os gwelsoch eog ryw dro yn plygu'i ben at ei losgwrn, ac yna yn ymsythu'n sydyn a hedfan fel saeth tros y gored, fe wyddoch sut y byddai Seren yn cyrchu rhyddid y clos.

Rhwng y ddwy ffaith hyn y mae cysylltiad clos.

a mynegodd ei phleser mewn bod a chysylltiad clos a CCPC.

Un o'r rhesymau dros y cwlwm clos yma rhwng teuluoedd oedd mai crwydrol a bugeiliol oedd eu bywyd.

Mewn byd masnachol ni fyddai'r cynhyrchydd yn cael gwaith ar ôl torri cytundeb, ond nid felly yn ganiataol yng Nghymru gan fod y berthynas yn un fwy clos.

Elen: Eirin pêr ac afalau gloddiau'r ydlan a'r clos, llus-duon-bach, mwyar, llugaeron, afan a syfi, ddigonedd .

Yn y mwyafrif o ddosbarthiadau plant bach, ceir cyplysu clos ar iaith a phrofiad, ac enillir cymhwsedd llafar yn rhwydd.