Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

closio

closio

Erbyn hyn roedd yr anifail wedi closio ato ac yn ei rwbio'i hun yn ysgafn yn erbyn braich y morwr.

Efallai y byddai yn rhagorach cyfrol o fod wedi closio at arddull y nofel, dyweder.

Ar adegau cyhyrfus, fel bygythiad y Bom-H neu Ryfel y Culfor, yr oedd caredigion heddwch yn closio at ei gilydd ac yn ymuno mewn cyfarfodydd a phrotestiadau.

Ymddengys i mi ein bod yn closio at hen sefyllfa lle mai 'Gwannaf Gwaedded, Trechaf Treisied' oedd y norm.

"Diolch, Elystan." 'Roedd y gyfathrach rhyngddynt yn closio a dôi cyfle i rannu cyfrinachau.

'Paid â bod yn grinc,' meddai Nel yn closio ato fo ac yn sychu tamad o lwch o'i foch hefo bys sidanaidd.