Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cludo

cludo

Yna byddai'r trueiniaid yn cael eu cludo dan amodau dychrynllyd ar draws yr Iwerydd i'w gwerthu am grocbris mewn marchnadoedd megis Havanna a New Orleans.

Fel arfer, byddai criw Iddewig yn gorfod cael eu cludo i'r dref mewn cerbyd â'i ffenestri wedi eu cryfhau i wrthsefyll ymosodiadau'r intifada.

Ar yr un pryd tynnodd ef sylw y ddirprwyaeth at ddyletswydd y Llywodraeth i sicrhau cludo bwyd a phobl, ac i ddiogelu'r cyhoedd ac eiddo.

Roedd eraill yn rhwygo dail pluog o ganghennau milddail y dþr, a'u cludo yn eu cegau i'r adeiladwyr.

Mae priddoedd podsolig yn ffurfio pan fo dwr glaw yn cludo elfennau o'r haenau uchaf i'r haenau is gan greu proffil lle mae'r haenau uchaf wedi eu cannu ac yn asidig.

Teimlai Peter ei bod yn hawdd iawn cludo deunydd fel hyn i mewn, heb wir ddod i adnabod y Cristnogion yno.

Wrth roi help llaw i ddadlwytho un o'r hofrenyddion a oedd yn cludo cymorth i'r mynyddoedd, cefais deimlad annifyr mai dyna o bosib' fyddai fy nghyfraniad mwya' gwerthfawr i dynged y Cwrdiaid.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Rhoddwyd y rhain gan Albion Concrete Cyf., a chawsan nhw eu cludo i'r union lecyn gan y fyddin, fel y gallai'r ysgolion gael naill ai fan plannu neu wely wedi ei godi.

Gŵr hynaws dros ben, ac yn gresynu nad oeddwn i wedi gofyn am gar i'm cludo yno (roeddwn i wedi cyrraedd mewn rickshaw-peiriannol, ac rwy'n dechrau arfer gweu i mewn ac allan dan draed loriau a bysiau).

"Yr argian fawr, trowsus 'nhad!" meddai'r dyn pan welodd Rex yn dychwelyd ato'n cludo rhywbeth yn ei geg.

Rwyf wedi clywed ar ôl dechrau'r papur hwn nad Metlin oedd y cam cyntaf yn y gwaith, ond eu bod yn gyrru cerrig go fawr (term y gwaith am y rhai hyn yw cerrig torri, sef cerrig wedi eu torri gan yr ordd) i Runcorn i gael eu metlo; felly roedd yn angenrheidiol cael rhywbeth i gario'r cerrig hyn o ben y graig i lawr i lan y môr, a ffyrdd i'w cludo.

Y ceffyl oedd cyfrwng cludo boneddigion y Canol Oesoedd, ond yn Lives of Saints from the Book of Lismore fe ddyry'r golygydd enghreifftiau.

Gwelodd hi'n cludo plentyn bach Margaret Miles yn ei chôl o rew yr afon dros ddeuddeng mlynedd yn ôl.

'Roeddwn wedi darllen llyfrau am rai fel Brother Andrew, a fu'n cludo Beiblau yn y dirgel dros y ffin i wledydd comiwnyddol.

Gŵr Mrs Dixon yn ein cludo'n ôl, dyn clên ond mae wedi twchu gormod - ei fol bron yn cyffwrdd â'r olwyn ddreifio.

John, fy mab-yng-nghyfraith, rheithor plwyf nid anenwog Llangeitho, a Morfudd fy merch a ddaeth i'n cludo i'r bês.

Dechreuodd fynd er mwyn cludo Beiblau a llenyddiaeth Gristnogol i'r Cristnogion yno.

Ni all afon Conwy gystadlu â hyn ond er hynny y mae'n cludo sawl mil o dunelli o waddod bob blwyddyn i Fôr Iwerddon.

Roedd gan ei pherchenogion hi, teulu Davies Porthaethwy, o leiaf deg llong, llongau mawr yn y cyfnod hwn, ar yr un fordaith, i gyd yn cludo cannoedd o deithwyr a nwyddau, ac ar draws y Fenai yng Nghaernarfon, roedd cartref John Owen, Ty Coch un o feibion teulu Rhuddgaer, Mon yntau'n berchennog ar longau a hwyliai i Ogledd America ac Awstralia.Ceir rhywfaint o'u hanes hwy yn y bennod nesaf.

Cludo mam i Genarth er mwyn iddi gael egwyl gyda'i ffrind Rachel.

"Tal Cyfleusterau% Holl gostau argraffu dyblygu prosesu ac unrhyw gost labordy arall a ddaw i ran yr Archif wrth ddarparu'r Deunydd gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw gostau cludo llwytho ac yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth gludo'r Gwaith a'r Deunydd i'r labordy ac oddi yno.

Yn anffodus nid oes gan BT ddewis yn hyn o beth gan fod rheidrwydd cyfreithiol arnom i warantu gwedduster cynnwys unrhyw negeseuon yr ydym yn eu cludo ar ein rhwydweithi.

Gorchmynion rif y gwlith: ffonio Elsie Hughes a gofyn iddi newid y rhestr am nad oedd Mem yn dymuno cludo'r ddwy Saesnes eto.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Yno gyrasom neges i Lanilar i ddweud y byddem yn disgwyl cerbyd i'n cludo i'r bês-camp, ym Mhencader.

Cuba a dalai am bopeth tra oedden nhw yno, ond gan fod y Rwsiaid wedi gwrthod talu am yr awyrennau i'w cludo, dim ond dwy fil o blant oedd wedi cyrraedd.

Ond mae cadeiriau peiriannol hefyd yn drwm, yn anodd eu cludo, yn ddrud ac mae angen ail-gyflenwi'r batris yn gyson.

Yr ysgub oedd un o'r gwrthrychau cyntaf i'w cludo i gartref newydd ac yr oedd ei gosod ger rhiniog y drws yn gyfrwng i rwystro mynediad i unrhyw un a oedd yn debyg o fwrw melltith ar y teulu.

Clywais sawl stori am y bechgyn hyn yn cael eu cludo i wersyll enfawr yn y wlad - y mamau'n crio yr ochr draw i weiren bigog wrth i'r bechgyn ddisgwyl am yr awyrennau a fyddai'n eu cludo i faes y gad.

Roedd Gwyn wedi clywed bod llwyth ohonyn nhw wedi cael eu cludo 'ma.'

Y drefn a barodd fod tren a thacsi a bws yn cribinio darn gwlad o blant, a'u cludo ddegau o filltiroedd i honglaid o ysgol bell i fwrdd.

Yma y mae Ruskin a Carlyle, Goronwy Owen ac Emrys ap Iwan, Rousseau a Ghandi a Francis Thomson, wedi eu cludo yma yn berlau gan rywun a'u gwelodd yn rhywle ac a'u cododd ac a'u cadwodd yn loyw lân lathraid.

Ynteu am eu bod yn cludo, yn ol ac ymlaen trwy'r twneli, ryw hiraeth liniarol am bethau a phobl na all fyth fod, fe arfaethwyd, gyda'i gilydd yn yr un lle?

Cysylltir y retina a'r nerf optig, sy'n cludo'r neges i'r ymen- nydd.

Er hyn, allan o'r holl elfennau, y nudden sydd yn deimladwy ac yn cyflwyno bendith i ddiogelu yr ennyd sydd yn ddi-ofn am fod yr Hariers a holl awyrennau hynod y Sais yn sefyllian mewn gwyll unig, a pheiriannau peryglus yr Argies: y Super Etendards sydd yn cludo'r Exocets.

Anghofia' i fyth ychwaith y wefr yn un o wersylloedd mwyaf anghysbell y Cwrdiaid o weld milwyr ifainc yn rhoi eu gynnau ar eu cefnau ac yn cario'r hen, y musgrell, y claf, gwragedd beichiog a babanod i hofrenyddion i'w cludo adref.

Ym mis Mai cyhoeddodd y llywodraeth fesurau i gynyddu'r gofal yn y marchnadoedd gan fynnu bod defaid yn dioddef o'r clafr yn cael eu cludo oddi yni i'w trin.

A'i hanes yn y diwedd oedd ei fod, fel ei dad o'i flaen, yng ngafael mân betheuach y byd hwn yn cludo ymenyn i'r siop ac yn cwyno am bris y farchnad.

I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.

Tair gwaith bu'r beilïod yn cludo dodrefn o'u tŷ nhw, a'r dodrefn yn werth llawer mwy na'r dreth a hawlid.

"Tâl Danfon" Holl gostau postio cludo llwytho yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth ddanfon/ddarparu y Deunydd i'r Cynhyrchydd.

Deallaf mai mewn Volvos mae'r cerddantwyr yn cludo eu telynau a'u clocsiau ac ati, ac felly addas iawn fod hysbyseb Volvo ym mhob egwyl nos Sadwrn.

Mae'n debyg fod y dawnswyr yn cynilo'u ceiniogau prin er mwyn prynu nwyddau y gallent eu cludo adref gyda hwy.