Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clustiau

clustiau

Llenwaist ein clustiau â seiniau'r greadigaeth - sisial ffrwd ar gerrig, trymru'r môr ar draeth, trydar yr adar, clec y daran ac amrywiol gynganeddion y gwynt.

Un flwyddyn cofiaf fod y ddau ohonom wedi canu ar y llwyfan gyda'n bysedd yn ein clustiau rhag i ni glywed y llais arall.

Roedd gweddill ei wyneb yn fasg difywyd, gyda'r gwefusau di-waed, y trwyn miniog, yr arleisiau wedi pantio a gwaelodion y clustiau yn troi tuag allan sydd yn arwyddion o farwolaeth yn agosau.

Deuai llais yr athro a'i gwestiynau undonog trwy'r ffonau a oedd yn dynn dros eu clustiau.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Ni ddaeth y sôn am dranc meibion yr arglwydd Rhys i'w clustiau.

Toc cyn i Therosina gyrraedd, roedd dyn mewn siwt wen wedi gosod cyrn clustiau trwm am ei ben ac wedi gwasgu botymau ar banel bach yng nghornel yr ystafell.

Byddai rhywrai yn eu dal, os nad yn wir yn eu magu, ac yn nodi eu clustiau yn union fel y gwneir gyda defaid.

Fel y bydd mis Ebrill yn tynnu at ei derfyn fe fydd pawb yn ceisio cau'r sŵn allan o'u tai ac yn stwffio wadin i'w clustiau, ond y mae'r cwbwl yn ofer bob blwyddyn.

Mi fydd wedi merwino'ch clustiau chi cyn pen dim, agorwch y drws inni rwan ac mi gaeith o'i geg yn glep.

oedd y ffordd y disgrifiodd arolygwr ffatri y plant yng ngogledd Lloegr yn siarad, ac fe geir arolygwyr Pwyllgor y Cyngor byth a hefyd yn cyfeirio at yr hyn nad oedd yn ddim ond brygawthan parablus i'w clustiau, pan oedd y plant mewn gwirionedd, mae'n siwr, yn adrodd barddoniaeth neu ddarllen rhyddiaith yn weddol ddeallus.

Roedd yn rhaid i'r cyfeillion ddisgyn oddi ar eu meirch, swatio yn erbyn y graig, a chuddio'u clustiau rhag y sŵn.

Er mwyn gwella clustiau oedd yn crawni berwid hadau'r onnen yn nŵr y claf ac iro'r clustiau â'r gymysgedd.

Felly hefyd os bydd y gath neu'r ci yn molchi dros eu clustiau.