Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clustnodi

clustnodi

Mae hon yn fforwm i'r sector wirfoddol drafod gyda chynllunwyr gwasanaethau.e.e.Mae Fforwm Plant a Theuluoedd Gwynedd yn mynd o nerth i nerth fel grwp lobio, ynghyd a cheisio clustnodi'r angen am wasanaethau a hyfforddiant nas darperir gan y sector statudol.

Roedd peirianwyr yn gosod sustemau dŵr a charthffosiaeth tra bod rhai'n codi llwybrau neu'n clustnodi rhannau arbennig o'r caeau ar gyfer sbwriel a gwastraff.

Byddai clustnodi dyraniad arbennig i'r Gymdeithas i'w sianelu i'r ardaloedd yma yn fodd i weithredu'n adeiladol i gyfarfod â'r broblem gynyddol yma yn ein cymunedau.

Wedi'r cyfan, dyma ddinas sy'n cael ei chyfrif gan UNESCO fel un o'r deuddeg canolfan bwysicaf o'r fath yn y byd, a thros chwe mil o'i hadeiladau wedi'u clustnodi fel rhai o bwysigrwydd eithriadol.