Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clwstwr

clwstwr

Clwstwr o ffrwythau mewn difri yw pob mwyaren, ffurf sydd wrth fodd y mân deloriaid sydd yn datgymalu'r swigod bach du fesul un tra'n cymryd seibiant ar eu taith mudol ym mis Medi.

Os bydd un siliwm sengl hir yn gysylltiedig a'r cudyn silia, bydd bob amser yn codi allan o gell sengl sy'n ffinio ar y clwstwr celloedd.

Dylid creu strategaeth a Chynllun Datblygu Clwstwr a'i gyflwyno i rieni a'r gymuned i geisio cynigion o gymorth o ran codi arian ar gyfer bws mini a dulliau eraill o gludo plant o adeilad i adeilad ac i hybu ymateb o ran addysg gymunedol.

Ond ein hargymhelliad cryf i lywodraethwyr yw y dylid trefnu popeth posibl - gan gynnwys pob cynllunio strategol - ar lefel clwstwr o ysgolion.

Noson i ddathlu hanner canrif o addysg gorfforol ddechreuodd fel Coleg Hyfforddi Dinas Caerdydd - clwstwr o hen gutiaur fyddin ar Barc y Waun.

Trwy gydweithio mewn clwstwr o ysgolion, gellir cronni a rhannu profiad llawer o athrawon ac o adnoddau materol a hybu cyfathrach ehangach ymhlith plant.

'Yr adroddiad,' meddai, gan estyn clwstwr o bapurau tuag at Andrews.

Y mae rhan arall y plwyf - y deheubarth - uwchlaw hen Glawdd y Mynydd lle gorwedd clwstwr o dyddynnod bach Trefenter a'u dechreuad o dai unnos a godwyd yn y ddeunawfed ganrif gan y sgwatwyr crwydrol.