Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clwt

clwt

Llai na 150,000 sydd ar y clwt yn swyddogol, gostyngiad o dros 25% dros ychydig flynyddoedd.

Oherwydd mecaneiddio taflwyd aml i weithiwr ar y clwt a'r canlyniad oedd fod llawer llai yn ennill cytlog mewn amaethyddiaeth.

Cael clwt gan ambell un, ond cael ei wrthod yn amlach; cael ei wrthod yn serchog gan ambell un oherwydd gwir brinder cerrig, cael ei wrthod yn oer gan y llall, a'i wrthod yn ffals gan un arall crintachlyd.

Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Gyda chyflymdra brawychus troes y llong fawr ar ei hochr a thaflwyd pobl ar draws y lolfa fel doliau clwt.

Ac ni thaflwyd yr un rheolwr, pa mor filain bynnag y bu ei driniaeth o'r gweithwyr, allan ar y clwt.

Yn hytrach na bod ar y clwt mi gynigiais fy ngwasanaeth yn haelfrydig i Bwyllgor Addysg Lerpwl ac mi fynegais barodrwydd i gyfrannu dysg a gwybodaeth mewn unrhyw ysgol y gwelai'r Awdurdod yn dda fy ngosod ynddi.

Dyna'r hen ____ (berwai Wiliam wrth gofio amdano'n awr) yn gwrthod rhoi clwt iddo ryw brynhawn yn yr haf, yn ei ddull cyfrwys.

Nid rhaid ychwanegu fod holl duedd economaidd Prydain Fawr gyda'r canoli fwyfwy ar ddiwydiannau yn gwthio'r Gymraeg fel clwt i gornel, yn barod i'w daflu ar y domen.

Tydi'r peth ddim yn naturiol, gweld enillydd y bara ar y clwt; mae'n gwbl groes i'r graen, er gwaethaf y ffaith fod llawer yn yr oes dywyll hon wedi troi'r byrddau a'r gūr yn mynd yn ūr-tū a'r wraig yn mynd allan i weithio!

Y broblem yn sylfaenol yw fod BBC Cymru ac HTV bellach wedi eu dadberfeddu, a'r rhan fwyaf o'u cynhyrchwyr naill ai wedi eu taflu ar y clwt neu wedi dewis ymuno â rhengoedd y sector annibynnol.

Gwnaeth y drych yn y gornel i'r ddau ohonyn nhw edrych fel doliau clwt.