Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

clywn

clywn

Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.

Toc, clywn ragor o leisiau, a sŵn traed, a drysau'n clepian.

Clywn lais patriarchaidd yn fy nghyfarch yn wresog o'r lle tân, ac o dipyn i beth ymffurfiodd Huw Huws, fel rhyw Fephistopheles diaconaidd a barfog, allan o'r mwg.

Rhydd i'r deunydd hwn driniaeth y nofelydd: clywn leisiau'r bobl yn siarad; gwelwn gymeriadau unigol yn cerdded ar hyd caeau a heolydd yr ardal; ac felly deallwn hwy yn eu perthynas â'r byd yn ei agweddau cymdeithasol, masnachol, crefyddol.

Trwy'r mwg, clywn sŵn papur o gyfeiriad y ddwy ferch a gwelwn hwy yn tynnu allan ddwy deisen.

Clywn hefyd am y 'Galileaid' a garai ryddid, yn ôl Josephus, ac na fynnent barchu neb ond Duw fel eu Harglwydd.

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

Pwysleisia yn yr adroddiad hwn gyflwr y galon - mwy ei thwyll na dim, ac yn ddrwg ddiobaith fel y clywn oddi wrth Edward Matthews a Roger Edwards dro ar ôl tro.' Ceir yn y fan hon beth o gomedi orau Hiraethog, gyda'r hen ŵr yn gwrthdaro â Siôn y Gof.

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

"Dowch i ista i gael paned" clywn Menna'n fy annog i'w ymyl, 'Dydach chi ddim wedi cyfarfod Deilwen."

clywn fi'n dweud wrthyf fy hun, 'paid â ffrwcsio, gwna bethau'n ofalus bendith y tad i chdi.' Cymerais fy rhwyd o'm gwregys a'i hagor.

Clywn ei sŵn yn stwyrian ac yn murmur draw yno, a chyn bo hir dyma fo'n ymddangos o'i guddfan dan groesi'r llawr llydan ar ryw hanner dawns, ond wrth chwifio'i freichiau llithrodd y stethosgop o'i ddwylo dan sglefrio ar bolish y linolewm fel sarff rwberog.

Ambell dro clywn am bethau'n mynd o chwith.

"'Chlywi di moni hi'n tagu?" Gogwyddais fy mhen i wrando, ac yn sicr ddigon clywn ambell besychiad cysetlyd yn gymysg â siad grefi a sibrwd siarad yn y cefn.

Ymhen tipyn clywn y canu lleddf ar draws yr afon a'r cwm, a rhedasom i'r tŷ i ddweud eu bod yn canu ac yn wylo wrth dŷ ewyrth Richard.

Nid ar y gân hon yn unig y clywn biano ar EP newydd Big Leaves fodd bynnag, gan fod iddi ran amlwg yn Nicole hefyd.

Fe'i clywn wrthi'n anadlu ac yn sipian, ac yna, er syndod, dyma'i glywed yn sisial (nid wrthyf i, ond wrtho'i hunan) y sibrydion hyn a gofiaf yn eglur hyd heddiw: .