Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cnawd

cnawd

'Cynnwys meddyliau, croesawu ysbrydoedd, ymwthio, saethu, perchi ystlumod, ymlid gwynt, porthi cnawd, turio am oferedd', ac elfen drosiadol gref iddynt yn ogystal.

Ymosodai yn filain ar wegil y greadures, rhwygo'r cnawd, ei lladd yn farw gorn, ac yna yfed peth o'r gwaed ffres, ychydig o ddiferion, cyn ffoi.

Fel yn 'Y Mynach', y gwrthdaro rhwng cnawd ac ysbryd yw thema'r awdl, ond, yn wahanol i awdl fuddugol 1926, y mae'r cnawd a'r enaid yn un erbyn y diwedd 'Y Sant', gan ddilyn athroniaeth Thomas Aquinas.

Dyma gyfnod 'Cwlt y Cnawd'. 'Roedd y Mudiad Rhamantaidd yn awr yn ei anterth, a merched lledrithiol oedd merched y beirdd.

Eglurodd Paul y gwahaniaeth yn fanylach na hyn yn ei ymadrodd cynnil, Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd,' ac os metha'r cnawd yn ei ddyletswyddau yna fe syrth y dyn fel y blodeuyn yn ôl i'r pridd.

Cofiai hefyd am ddefaid ac žyn yn gorwedd i farw tan berthi'r meysydd a'r pryfed sydd yn ymbesgi ar lygredigaeth y cnawd yn ymgasglu tan y gwlân cyn i'r corff oeri.

Dywedir i'r sawl a agorodd yr arch y tro hwn deimlo'r corff â'i ddwylo yng ngolwg yr ardalwyr, ac 'roedd yn amlwg fod y croen a'r cnawd mor ddilwgr â'r dydd y claddwyd hi.

Cofiai Myrddin Tomos am ddefaid yn pryfedu; am eu dwyn i fuarth y fferm, eu dal, torri'r gwlân o amgylch y cynrhon a oedd wedi ymgladddu yn y cnawd, eu pigo allan â'r gwellau a rhwbio pridd melyn yn y man pryfedig.

Ac ni flinai ryfeddu at wyrth yr Ymgnawdoliad - Duw yn y cnawd.

Ildiai'r carcharorion i bob trythyllwch ac ymhalogi, hunan-gariad, Onaniaeth a phechodau annaturiol y cnawd.

Oni welsom Satan yn Nhrefeca yn troi dynion a merched y Teulu at y cnawd a'u llygru?

Ond rhaid imi gyfadda fy mod inna'n bersonol yn bechaduras hefyd, ac wedi sycymio fwy nag unwaith i chwantau'r cnawd.

Cnawd drylliedig, esgeiriau yn ysgyrion.

Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.

Ni ddenwyd Elystan gan gyfoeth na rhyfel nac ychwaith chwantau'r cnawd.

'Uffern! Uffern! Uffern! Cnawd drylliedig, esgeiriau yn ysgyrion.

Mae dyn 'yn pori yngwerglodd y cythrael i borthi y cnawd heb adnabod y Duw anweledig ai gwnaeth .

Cnawd du a gwallt gwifrog - Jeannine!

Gyda'r gweithiwr cyffredin yr oedd cydymdeimlad Ieuan Gwynedd ('Nid ydym ond asgwrn o'ch asgwrn, a chnawd o'ch cnawd.' ) a chasâi'r meistri haearn - teuluoedd Harford, Bailey a Homfray - â chas cyflawn.

Mae eu cnawd nhw'n rhy debyg i gnawd dynion.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.

Darlithiau trwy'r dydd, a'r Major yn tynnu ar ei atgofion mewn ymdrech i roi cnawd am esgyrn sychion ei sylwadau.