Look for definition of cnoi in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Roedd ofn yn cnoi yng ngwaelod ei stumog.
Mae'n eistedd yng nghôl ei fam, ac mae cnoi bisgeden yn ymdrech o'r mwyaf iddo.
gyda dau ddant blaen uchaf sy'n arbennig o gryf ar gyfer cnoi.
Mae'n ymddangos fod Syr Simon a Ledi Gysta yn arfar cnoi pob tamaid ddeng waith a thrigain cyn ei lyncu.
Roedd trimins yn cael eu cnoi yn ddim a bu bron i'r Santa bach fethu a chyrraedd pen y goeden mewn un darn.
y mae beiros seianeid yn fy ffroenau a llyffantod ffyrnig yn cnoi fy sannau...
Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.
Ond pan roddodd ei drwyn ar y ffenast drwchus roedd y fuwch wedi codi ei chlustia, yn cnoi ei chil yn braf, ac yn edrach arno!
Ceisiwch edrych yn ddihidio, cyn belled ag y medrwch pan fo'r ci yn cnoi talpau i ffwrdd o'ch coesau.
Ta beth, i berfeddion y soffa y crwydrodd y bochdew bach er wyddem ni ddim nes inni ei glywed yn dechrau cnoi a chrafu ei ffordd allan.
I dorri'r ddadl, rhoddwyd y ffwlbart mewn cawell gyda'r ffureti, ac ymhen rhyw awr yr oedd y ffwlbart wedi cnoi trwy ddrws y cawell ac wedi dianc!
Roedd hi'n cnoi ei chil yn braf.
Gwyddys, wrth gwrs, fod rhai anifeiliaid megis ceirw, defaid, geifr a gwartheg yn cnoi cil.
Roedd yna ryw synau rhyfedd o'i gwmpas bob amser; byddai'n anadlu'n hyglyw, ddrafftiog, yn ogystal â chreu sŵn sipian yn ei fochau, fel petai ar ganol cnoi'n wastadol.
Diolch i'r brenin nad oedd neb yn cnoi baco!
Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.
Dyna'r creaduriaid llonydd yn cnoi'r cil yn dawel tra byddwch yn datod y cadwyni o'u gyddfau.
Ceir swyn serch arall sy'n dweud y gall bachgen ifanc ennill cariad merch wrth roi darn o wm cnoi iddi ar ôl iddo ddweud cyfrinach ei gariad wrth y gwm.
Fe fyddan nhw'n cnoi ewinedd eto dros y Sul gyda'r ddau dîm am fuddugoliaethau fydd yn sicrhau'r lle ola i'r nall dîm neu'r llall yn Ewrop.
Ond pan sgoriodd Jason Hewlett ddwy funud o'r diwedd i fynd gyda chais hanner cynta Steve Ford â Paul Williams yn trosi roedd hi'n 13 - 12 a phawb yn cnoi ewinedd.
Felly sylwn yn fanwl ar bopeth a wnâi a cnoi cil ar gymaint ag y gallwn ei gofio o'r hyn a ddywedai.
Yr oedd ei esgyrn, er nad oedd un ohonynt wedi torri, yn cnoi; ond ni ofalai ef lawer am hynny y cnofeydd a oedd yn ei galon a'i blinai fwyaf.
"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".
Roedd Huw yn enwog yn y teulu am ymestyn y gwir, fel gwm cnoi.