Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cnwd

cnwd

Bob tro y defnyddia garddwr y pridd, dylai roi'r daioni'n ol ar gyfer y cnwd nesaf.

Aeth tatw yn brin a chododd eu pris i'r entrychion ond, er cyn lleied y cnwd, honno oedd y flwyddyn fwyaf broffidiol i'r ffermwyr tyfu tatw.

Abwyd i'r fwyalchen a'i thebyg yw cnwd ffrwyth y ddraenen wen er enghraifft, ond nid felly yr hedyn yn ei ganol.

Rhaid cyfaddef nad ydym yn cael cnwd trwchus ers rhai blynyddoedd bellach ac mae'r sawl sydd yn barnu eu bod yn gwybod, yn beio'r effaith tþ-gwydrol y mae llygredd y Ddaear yn ei gael ar y tywydd, am hynny.

Erbyn dechrau'r mis, dylai'r tŷ gwydr fod yn glir ar gyfer plannu cnwd yn ei forderi os symudwyd y planhigion a oedd mewn blychau a photiau i'r ffrâm oer i gael eu caledu.

Disgwyliaf i'r cnwd ddilyn y rhai o'r fframiau.

Ffrwyth yr ysgaw yw'r ffefryn fodd bynnag, a maint y cnwd o'r perlau duon sydd yn penderfynu yn aml faint o fynd fydd ar aeron eraill yr hydref hwnnw.

Y cnwd mwyaf poblogaidd yw tomatos a gellir cael llawer mathau ohonynt.

Mae hon yn ffordd rwydd a glanwaith o dyfu cnwd da o domatos.

Os bydd cnwd da o gnau un flwyddyn dywedir y gellir disgwyl llawer o fabanod y misoedd canlynol.

Yn ystod Ionawr eleni daeth cnwd ar gnwd o eira gyda haen ar haen o rew.

Cafwyd cnwd o gerddi modern/ realaidd ar ôl 1915 ac ar ôl y Rhyfel Mawr: cerddi rhyfel Cynan, 'Atgof', a cherddi Caradog Prichard.

Ond, a'r cnwd olaf bron yn barod i'w cynaeafu, dyma fe'n marw.

Pan tua thair neu bedair milldir o Memphis, a'r ffordd yn rhedeg drwy ganol meysydd llydain a gwastad o bob tu i ni, gofynnai Mr Eleazar Jones i deithiwr a ddigwyddai eistedd ar ei gyfer, gan gyfeirio at faes ar lechwedd bychan gyferbyn â'r ffenestr, â rhyw fath o growcwellt hir yn tyfu arno, nad oedd Mr Jones yn hollol sicr beth ydoedd, - `Cnwd,' ebe fe, `o ba beth yw hwn ar y maes yna?' Ebe'r dyn, gan godi ei ysgywddau ac ysgwyd ei ben gydag ochenaid, `that is a war crop!' - Cnwd rhyfel ydyw hwnyna!