Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cnydau

cnydau

Fel y bydd y cnydau'n datblygu, ni fydd lle i'r chwyn dyfu a bydd y gwaith hofio'n lleihau.

Gellir parhau i hau hadau llysiau a gwneud hyn dros gyfnod o amser er mwyn cael cnydau dilynol.

Cwilt pobol ddiog yw'r cwilt erbyn hyn a'r clytiau o las Gwanwyn a melyn Haf ac aur Hydref wedi mynd yn fawr ac yn ychydig, a'r tractorau a'u gwehyddion a'u casglwyr silwair a'u combeiniau yn llusgo hyd yr erwau agored fel chwilod mawr, boliog yn ysu'r cnydau.

Honnodd un cadfridog eu bod wedi llwyddo fwy nag unwaith i lanio timau bychain o filwyr yng Nghuba er mwyn llosgi cnydau siwgr a llofruddio swyddogion llywodraethol.

Gwell hynny na'u gweld yn rheibio'r cnydau ar y ffermydd cyfagos!

Gwnaent hefyd wenwyn o blanhigion, i ladd pryfetach ac anifeiliaid a fyddai'n dinistrio'r cnydau.

Ond mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Amaeth, Christine Gwyther, cyn y bleidlais y gallai'r cynnig ond nodi dymuniad y Cynulliad i wahardd cnydau wedi'u haddasu'n ennynol.

Fydden ni ddim yn caniatau plannu cnydau os na fydden ni'n hyderus nad ydyn nhw am wneud drwg i bobol, anifeiliaid na'r amgylchedd.

Yn y cyfamser yn Llundain, mae Simon Thomas aelod seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wedi galw am weithredu'n erbyn cnydau GM - ond nid yn erbyn safle Sealand ar hyn o bryd.

Mae cnydau ar gyfer porthiant i anifeiliad hefyd yn bwysig mewn rhai ardaloedd.

Ychydig o gnydau a dyfir yn genedlaethol, er fod cnydau megis tatws cynnar ac yd yn bwysig i economi ffermydd mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn yr iseldiroedd.

Pe gwireddid y stori mawn yma buasai'n ddoeth inni fod yn fwy gofalus o gynnwys y bagiau gyfu (growbags) ar ôl i dyfiant y cnydau haf ynddynt orffen.

Nhw oedd yn gyrru'r Gwylliaid i losgi cnydau a dwyn eu da.

Cnydau o bob math yw bwyd cwningod, cnydau megis glaswellt, ydau, rwdins, moron a dail llysiau, ond yn y gaeaf fe wnânt ddifrod mawr ar goed yn ogystal trwy ddirisglo'r pren ac ymborthi ar y rhisgl.

Ar yr iseldiroedd hyn ceir amaethu cynhyrchiol a chedwir gwartheg godro a thyfir cnydau.

Mae ffwng bach yn tyfu ar y cnydau hyn.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

Pam yr ydych yn meddwl y defnyddir cyn lleied o'r gwastadedd ar gyfer tyfu cnydau?

Un haen o fysg llawer oedd ffrwythlonedd cnydau, perthi aeron, llysiau gardd a'r byd llysieuol yn gyffredinol.

Yn aml pris y cnydau toriethiog yw unigedd a dyled yn y banc.

Pwrpas y duo oedd dychryn unrhyw ysbrydion drwg oedd yn digwydd loetran yn y tir rhag iddynt effeithio ar y cnydau.