Ymysg y coedydd cochion a melyn yma, ar ymylon y goedwig ac yng nghysgod y coed mae yna ddwy goeden fach, na feiddiwch eu cyffwrdd.
O gofio'r hanes am John Evans o'r Waunfawr yn cyfarfod Indiaid cochion o Gymry Cymraeg aeth un rhigymwr lleol ati i ysgrifennu 'pryddest' yn priodoli profiadau tebyg i D Rhys Jones yn y Wladfa: "Medd Pat, wel dyma ddiawl o waith yw cwrdd ag Indiaid coch y paith."
Amser cinio - Susie a Scarlet yn galw hefo llond lle o rosys cochion imi.
Ond cyn cyrraedd y terfyn hwnnw rhaid i Rafe syrthio mewn cariad ag Evelyn (Kate Beckinsale) nyrs brydweddol y mae ei gwefusau cyn goched â'r haul a'i belydrau cochion ar faner wen Siapan.
Hiwmanist oedd Herder, un o'r Ewropeaid cyntaf i amddiffyn diwylliant yr Indiaid Cochion; ysbrydolwyd ef yn ifanc gan ganeuon gwerin y Latfiaid; a phroffwydai y byddai'r Slafiaid 'gynt mor hapus a diwyd ..
Mae creigiau cochion yn arwydd sicr bod y graig honno wedi ei ffurfio dan amodau anialwch sych oherwydd fod y lliw coch yn dod o'r haearn sydd wedi rhydu yn yr awyrgylch sych.
Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.
Ond doedd y cochion ddim wedi cwbwlhau eu gorchest, ac fe fylchodd Roy Bergiers mor effeithiol fel na fedre'r gleision rwystro'r wythwr, Hefin Jenkins, rhag croesi am gais arall, i'w throsi gan Phil, i roi deg pwynt ar hugain ar y sgôrfwrdd--yn erbyn saith pwynt Caerdydd Nid gwneud cam â Chaerdydd yw dweud eu bod nhw wedi rnethu gyda chwe chic at y pyst, wrth iddyn nhw ddefnyddio Gareth Edwards, Leighton Davies a Keith James yn eu hymdrechion.
mae brian flynn am i'r cochion gael cyfres o gemau llwyddiannus i gychwyn y flwyddyn er mwyn o leiaf gyrraedd y gemau ychwanegol.
Roedd y dynion wedi cilio 'nôl i'w gwersyllfa, heb benderfynu sut i weithredu, ond nawr neidiasant ar eu traed a rhedeg, pob un yn ôl ei nerth, tuag at eu gwaredyddion, a'r clwyfedig yn olaf, a'r gwaed o'r rhwymyn trwsgl am ei law ddarniedig yn ddafnau cochion ar y ddaear.
VATILAN DI-EUOG a RHYDDID I VATILAN oedd y slogannau, mewn llythrennau breision cochion, ac un arall o dan rheini'n dweud PC LLONG Y CWD mewn paent glas.
Ar lan y llyn mae rhai tai reit solet, wedi eu hadeiladu a brics cochion, ac yna strydoedd clos o dai sy'n gymysgedd o frics a mwd.
Ym Mhrydain 'roedd prinder pethau fel sebon, llafnau eillio, ac 'roedd rhai merched yn defnyddio betys cochion fel minlliw, a brownin grefi ar eu coesau yn lle sanau.
Ond gyda dwy gôl o fantais y cochion ydy'r ffefrynnau clir i gyrraedd y rownd derfynol.
oedd fy ngwestiwn i ar y pryd, ond cyn pen saith munud o'r dechrau, cawsai'r Cochion eu cais cyntaf, a chefais yr ateb i'm cwestiwn ar un pryd.
Y blaenwyr Dyfarnwyd pedair cic gosb ar bymtheg gan Gareth Simmonds (yr oedd un o'r llumanwyr o Gaerloyw, sef John Roberts), deuddeg ohonynt i'r Cochion, llai nag arfer am droseddau yn y ryc er bod pob blaenwr â'i fryd ar ennill yr ail feddiant.