Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cochni

cochni

Fe giliai yn ddyfnach i'r cochni a'r rhuo.

Y rheswm am y cochni yw'r siwgr yn y celloedd.

Mewn rhyw ddiwrnod neu ddau fe welir cochni yn y rhan honno o'r croen yn ogystal â thynerwch, ac mewn diwrnod neu ddau arall fe fydd y cochni yn troi'n bothelli mewn mannau, a chyn pen wythnos fe ânt yn grach.

Bydd yn mwynhau ei chysgod ar ddiwrnod poeth; bydd yn dotio at liwiau a ffurfiant ei dail; fe wêl yr adar yn trydar ynddi a gyda'r nos bydd yn llawn syndod wrth edmygu ei ffurf yn erbyn cochni'r machlud.

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.

Ond roedd e'n dod, yn dod trwy'r llen, a honno'n gwanhau, a'r cochni'n dechrau cilio'n raddol - na!