Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

codasai

codasai

Y darluniad cywiraf a fedrwn roddi o'r golygfeydd ar y daith hon ydyw disgrifiad a roddir gan Solomon o faes a welodd ef yn rhywle: `Wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr (goed) a syrthiasai i lawr; y palasau ydynt wrthodedig - yr amddiffynfeydd ydynt yn ogofeydd, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa diadelloedd.'

Codasai'r lleuad mewn awyr serog, glir, a helpai'r gwynt ei llewyrch gwan i symud y cysgodion rhyfedd yng ngodre'r winllan ac ar y weirglodd las.

Yn Lloegr hefyd, tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, codasai'r diwygiwr beiddgar hwnnw, John Wyclif, a mynnu bod mwy o awdurdod yn perthyn i'r Beibl fel Gair Duw nag i'r Eglwys a'r holl Gynghorau.

Codasai awel pur gref o'r gorllewin a'r su tawel fu gynt yn y coed wedi troi yn rhywbeth mwy bygythiol.