Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coeden

coeden

Ganddo ef nid coeden gyraints duon fyddai'r goeden ond coeden dyfu perlau, a masnachwyr perlau Llundain wedi gwisgo colyn llidiard yr ardd i lawr i ddim, gan amled eu mynd a dod i gyrchu'r perlau dihysbydd hyn.

Drwy'r glaw, daeth dau ddyn yn cario calabash, sef llestr wedi'i wneud o ffrwyth coeden, a dodwyd hi ynghanol yr ystafell.

Rhwng canghennau coeden arall y mae tynnwr lluniau yr El Chubut wedi clwydo yn chwilio am y llun gorau i'w bapur.

Yn ôl pob sôn, coeden anlwcus yw'r ddraenen.

Roedd gan y Llychlynwyr gred mewn Coeden Byd a'r enw arni oedd Yggdrasil.

Pan fo'n tyfu ar y wal neu dros foncyff coeden, mae'n orchudd da i adar allu nythu a chlwydo ynddo.

Y banyan yw coeden sanctaidd yr Hindu gan fod y duw Vishnu wedi ei eni o dan un.

Dyma rai enghreifftiau: * "Roeddwn i'n pagio'n ara deg panlamodd coeden yn erbyn bympar ôl y car..."

Er enghraifft, wrth aredig byddai John Lewis yn grwn ac yn gampus o'ch blaen fel coeden braff ar yr tir.

Coeden fythwyrdd arall sydd yn ffynhonnell hwyr o ffrwythau yw'r eiddaw neu'r iorwg.

Yn aml gwelir coeden o'r fath yn tyfu gerllaw ambell hen ffynnon iachusol.

Coeden, a thwrci, a phwdin Nadolig, a sôs llygeirin a chnau a hufen.

Ceisiasom bopeth - twrci mawr a'r holl addurniadau a âi gydag ef, coeden Nadolig nobl a sacheidiau gan Siôn Corn.

Credai rhai pobl y gellid gwella plant oedd yn dioddef o dorgest (rupture) a'r llechau (rickets), drwy ddefnyddio coeden onnen ifanc.

Ganrifoedd wedi amser Hywel fe'i hystyrid yn drosedd i dorri coeden dderw a deuai dim ond anlwc i'r sawl a wnâi hynny.

Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.

Gan glymu un pen i'r rhaff o gwmpas boncyff coeden gollyngodd ei hun i mewn i'r twll du, drewllyd.

Bargen gafodd ei daro rhwng coeden a chreadur oesoedd yn ôl yw hon, ond brwydr yn hytrach na bargen sydd i'w weld o sbecian y tu ôl i'r llenni.

Fe'i haddolwyd gan drigolion nifer o wledydd fel coeden sanctaidd i dduw yr awyr a alwyd gan genhedloedd gwahanol yn Zeus, Jupiter, Thor neu Taranis.

Eisteddodd Buddha o dan goeden peepal - coeden gwybodaeth.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.

Credir fod gan bob coeden rym bywiol arbennig, sef yr ysbryd sy'n byw yn y pren.

Mi fyddia'n dlawd ar y rheini heb doreth o eira i dynnu ei lun a robin goch yn rhynnu ar frigyn coeden gelyn ar y canfas gwyn.

Y Tywysog Albert, gŵr Victoria, ddaeth â'r arferiad (o'r Almaen) o gael coeden wedi ei haddurno.

Eisteddais yn ôl yn erbyn coeden; beth oedd well i unrhyw un, - dim radio na theledu na phapur newydd i'w atgoffa am yr holl ryfela a'r byd a'i drybini.

Coeden â chryn dipyn o goelion yn perthyn iddi yw'r ysgawen.

Ym Mosambique yr wythnos diwethaf yr oedd gwraig yn geni ei phlentyn ar ben coeden ller oedd hi ac eraill wedi gorfod dianc rhag y llifogydd dychrynllyd syn boddir wlad.

Busnes 'hit o'r miss' iawn yw'r un prynu coeden Dolig yma i ni.

Rhaid cyffwrdd mewn coeden fyw cyn mynd ar daith.

Ond nid pawb sydd wedi cael profiad pleserus wrth geisio cysylltu ag ysbryd coeden.

Uwchben y côr mae aderyn yn canu nerth esgyrn ei ben yn uchel ym mrigau coeden.

Mae'n bosib y byddai papurau newydd yn galaru am ei luniau ond prin oedd y cydymdeimlad yn y stafelloedd newid y diwrnod y dywedodd Steve wrthym fod ei dad wedi gyrru yn erbyn coeden.

Os oedd coeden wedi gwella plentyn roedd rhaid bod yn wyliadwrus iawn rhag i rhywun ei thorri neu ni fyddai'r plentyn fyw fawr ddim wedyn.

Ond, dim ond y byddigions oedd yn dilyn yr arferiad yma, ac nid oedd coeden Nadolig i'w gweld yn y cartrefi cyffredin hyd y ganrif hon.

Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.