Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coes

coes

Gough oedd yr olaf allan, coes o flaen wiced i Vaas am 10.

Llwyddodd Danish Kaneria, y troellwr coes deunaw oed, i gipio'i wiced gyntaf mewn gêm brawf pan dwyllodd Marcus Trescothick am 30 rhediad.

Roedd un yn gwneud ichi grebachu, ac edrych fel corrach, ac un arall yn eich gwneud yn hir a main fel coes brws.

Coes bren, coes blastig, menyg rybyr, trombôn, gwybedyn marw a gwin danadl poethion: i gyd yr un peth yn y diwedd.

"Fedra i ddim symud fy mraich chwith na'm coes chwaith," sibrydodd wrth Royal.

Ein Dr Redwood annwyl ni: sws- iddo-bob-amser; y Blwbyrd cu, cyfeillgar (llawn hwyl a sbri a thynnu coes) a'i newydd nyth yng Ngwydir Haws (a Weilz).

Rwy i wedi cael tipyn o dynnu coes ar ôl sgorio yn ein gêm ddwetha ni yn erbyn Wrecsam.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

Bwrw dwy awr neu well ar y copa, ac yna disgyn yn ochelgar dros y graig eilwaith, gan mai'r peth rhwyddaf yn y byd oedd colli golwg ar y llwybr i waered, heb sôn am ysigo sawdl neu dorri coes.

''Di brifo'ch coes, Mrs Bowen?' gofynnodd.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Byddai yn y pwyllgor gwaith le bywiog iawn a'r trafod a'r dadlau bob am er yn adeiladol ac o ddifrif ag eithrio ambell dynnwr coes fel Huw Caer Loda!

Mawr fu y tynnu coes ar lawer amgylchiad, ond ni welais ef erioed yn colli tymer er i'r tynnu coes fod bron yn greulon weithiau.

Yr oedd yn amlwg nad oedd yn hapus pan gafodd ei ddyfarnu allan coes o flaen yn yr ail fatiad.

Ond nid oedd capten Lloegr, Nasser Hussain, yn hapus o gwbl gyda phenderfyniad y dyfarnwr, Steve Bucknor, i'w roi allan coes o flaen.

Pe gwelai Aggie hyn, deuai i mewn yn cario coes brws llawr a'i ddefnyddio ar gefn y troseddwyr.

Tynnu'n coes ni oedd hi mewn gwirionedd, achos cerddad cyn bellad â'r Hen Eglwys ddaru hi - er mwyn i ni gael hel cocos cyn dŵad adra.

Dechreuodd ei law grynu wrth iddo wasgu coes y rhaw fechan yn dynn.