Busnes digon od yw angladd, ar y gore, a doedd gan neb ohonon ni fawr ddim i weud pan es i a Jac draw i fesur Madog ac wedyn i fynd a'r coffin draw.
Roedd Jac y Sar wedi hau stori ers blynydde i fod e wedi gneud coffin iddo fe'i hunan yr un pryd ag y gnath e goffin i'w wraig, a'i fod e'n i gadw fe dan y gwely, ond gan na fues i rioed yn stafell wely Jac, wn i ddim a oedd e'n gweud y gwir ai peidio.
Rown i'n un o bedwar a fu'n gollwng gollwng coffin Madog i'r pridd ac rwy'n cofio taflu cipolwg ar Luned wrth i fi neud hynny a gweld 'i bod yn dra deniadol mewn du.