Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cofiaf

cofiaf

Cofiaf i mi sylwi y bore hwnnw fod rhai o'r plant yn y dosbarth wedi eu gwisgo yn hollol yr un fath â'i gilydd - pedwar neu bump o fechgyn yn f'ymyl mewn siwt lwyd, dywyll, hynod o blaen, er yn lân, a rhai genethod mewn siwt o'r un lliw a defnydd, a'r un patrwm â'i gilydd yn union, gyda ffedogau gwynion, llaes a dwy lythyren wedi eu stampio arnynt.

Cofiaf fel y byddai yn adrodd am ei dad yn gofyn bendith cyn bwyd ac fel y byddai ef a'i frawd Morgan yn gorfod aros adref ar yr yn ail sul.

Cofiaf hefyd y pleser a gafodd o fynychu Eglwys y Nyfer yn rheolaidd a'r cof cysegredig o dderbyn Bedydd Esgob yno yng nghwmni merched y Plas.

Cofiaf yr Henffridd ar dro gennym yn Nhyddyn Barwn un flwyddyn.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Cofiaf dro arall hefyd.

Un flwyddyn cofiaf fod y ddau ohonom wedi canu ar y llwyfan gyda'n bysedd yn ein clustiau rhag i ni glywed y llais arall.

Cofiaf ymweld â Chlwb Ro-wen am y tro cyntaf.

Cofiaf yn dda am y paratoadau!

Ond cofiaf yr un mor dda hefyd sylwi mai gwrando'n astud ar ei gap¨en wnaeth lan.

Cofiaf yn arbennig am weithdy dau saer coed, a byddai'r ddau yn nodedig am eu gwaith crefftus a da.

Cofiaf yn dda ei bod wedi fy siarsio i alw i'w gweld ar fy ffordd i'r orsaf wrth imi fynd i ddal y trên wrth ymuno â'r fyddin.

Digon hawdd credu bod rhywbeth cyntefig yn perthyn iddo hefyd wrth weld ambell enw tîm pêl-droed wedi'i sbre%o'n goch ar wal - Hwn-a-hwn "rules OK!" Gall gofnodi ymgyrch herfeiddiol hefyd - cofiaf weld "English visited Panti% gyda'r dyddiad oddi tano yn Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth.

Cofiaf wylio cynnwys y llyfr hwn mewn cyfres faith ar y teledu sbel yn ol a James Burke yn traethu gyda huotledd wrth bicio o wlad i wlad i gyfleu ei syniadau am hanes gwareiddiad.

'Roedd Ifan Jones (Peris) yn agos at orffen pan ddechreuais i ar y tripiau, felly ni chefais y fraint o'i gwmni ef, ond cofiaf ef a'i frawd Richard (Dic Peris - tad Arwel, Hogia'r Wyddfa).

Cofiaf hefyd ddoniolwch T.

Cofiaf un flwyddyn mai "Fflat Huw Puw% oedd y gân a llwyddodd i gael cwch go iawn i ni ar y llwyfan, a ninnau'n gwisgo cap pig gloyw a souwester.

Cofiaf Dr Jamieson unwaith yn rhoi gwers i ni ar y rhannau o'r benglog ac roedd yr astudiaeth ar rannau esgyrniog ohoni yn un bur fanwl.

Cofiaf am un wers pan oedd Anti yn dweud wrth ei dosbarth am weddio mewn anawsterau, neu er mwyn cael help i ddysgu eu gwersi yn iawn.

Cofiaf noson o aeaf yn y gegin fawr, a'r llu wynebau chwilfrydig, wedi eu goleuo gan fflamau'r tân, yn gwrando ar lais cras Owen Owens.

Cofiaf amdano'n sôn am bobl yn gweddi%o.

Yr oedd Phil yn tynnu at ei hanner cant oed bryd hynny, ac er iddo gael gwaith mewn pwll glo am y deunaw mlynedd nesaf, fel gweithiwr tun y cofiaf fi ef.

Cofiaf glywed amryw yn dweud yr adeg honno mai gwastraffu pleidlais fuasai ei rhoi i'r Blaid am na fwriadai'i hymgeisydd fynd i'r Senedd ped etholid ef.

Cofiaf Keith V.

Cofiaf un Koread yn arbennig.

Teganau gwerthfawr fyddai yn y hosanau, a wnaed gan ryw Tom Smith os cofiaf yn iawn, a llanwyd yr ysgol gan ein lleisiau ifainc yn canu mewn Saesneg Cymreig iawn.

Mae'n rhaid ei bod wedi effeithio yn fawr arnaf, achos cofiaf y noson aeth hi i ffwrdd yn y tren, yr oeddwn wedi ypsetio cymaint nes i mi fynd yn sal.

Cofiaf dripiau diwedd y tri degau ac un yn arbennig pan aethpwyd i New Brighton.

Cofiaf iddo drefnu cystadleuaeth hynod : lwyddiannus ar fferm Fronalchen a chafwyd ymateb rhagorol - gan yr aelodau.

Un swllt ar ddeg a chwecheiniog yr wythnos, os cofiaf yn iawn, a dalai fy nhad am lety i mi a gofalai yntau wedyn anfon bagiad o datws a swej ac wyau a chig moch i'r hen wraig o dro i dro.

Tra yr oeddem ni i ffwrdd yr oedd Anti wedi bod yn edrych ar ol ein cartref, os cofiaf yn iawn.

Cofiaf rai blynyddoedd yn ol, mewn cinio ym Mangor, wrando ar y gŵr gwadd sef Richard Lloyd, cyn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd ac yn ddiweddarach Durham, sydd yn awr wedi ymddeol ac yn byw ym Mhentraeth, Mon, yn cofio ei wyliau pan yn fachgen yn Llangairfechan ac yn mynd i un o ddatganiadau Ffrancon a hefyd yn cofio ei garedigrwydd drwy ganiatau iddo ymarfer ar organ wych Eglwys Crist.

Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.

Cofiaf Gruff yn neidio'n ol ac ymlaen ar hyd y ffin rhwng y Swistir a'r Eidal.

Cofiaf deimlo llaw gadarn ar fy ysgwydd un bore yn y labordy a'i lais yntau'n dweud: "You are a very industrious little boy aren't you?

Cofiaf ddau amgylchiad a gafodd argraff arbennig arnaf.

Cofiaf adegau o orfod rhedeg, gan gario'n pac a'n dryll, am bum milltir a hynny mewn deugain munud, ac yn ddiweddarach gwelais (os cofiaf yn iawn) orfod rhedeg deng milltir mewn awr a deugain munud.

O'm plentyndod cofiaf am lawer cymeriad gwreiddiol a doniol, a dyma grybwyll dim ond tri ohonynt, Jonni Huws y Saer, Dic Lodge, a Washi Bach.

Hyd a cofiaf, mynd a bwyd efo no, y byddem ni.

Cofiaf un bore, a ninnau ar barêd yn cael ein harolygu gan ddau swyddog Siapaneaidd, i un ohonynt sefyll o fy mlaen i a gofyn, gyda help y cyfieithydd, "Beth dybiwch chi fydd eich tynged yn y diwedd?

Cofiaf glywed y newyddion am saethu Kennedy.

Cofiaf am rai o'r darlithoedd gwych a gaem yn achlysurol, fel darlith AOH Jarman ar Iwerddon, a darlith H.Francis Jones ar W^yr Llangwm a'r Rhyfel Degwm.

Cofiaf y tro cyntaf yr euthum allan dros y Blaid.

Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.

Cofiaf fynd i Landudno, i gyfarfod unwaith a neb ond Elwyn Roberts, a weithiai yn y banc yno ar y pryd, yn bresennol.

(Gyda llaw, os cofiaf yn iawn, dwy bunt dau swllt ac wyth geiniog ydoedd cyflog wythnosol dyn clirio'r eira oddi ar y ffordd y pryd hynny!) Sylwais y bore yma fod asgell-goch ymhlith yr adar oedd yn bwyta briwsion ar y lawnt.

Bu cyfeiriad at y `li lith' gan yr Athro Parry-Williams yn rhywle, ond, hyd y cofiaf, nid yw'n awgrymu o gwbl y dichon fod lilith ar gael heddiw.

Os da y cofiaf, amserid cychwyn bob capel ar adeg gwahanol gan nad oedd digon o le i fwsiau pawb yno.

Cofiaf ei ateb, air am air.

Mr Wynne Samuel, os cofiaf yn iawn, a ddaeth ag awgrym gerbron y Pwyllgor, yn cymell y Blaid i fabwysiadu yn bolisi gynllun ar gyfer Cymru o waith arbenigwr yr oedd ef yn ei adnabod; yr oedd y cynllun yn un priodol iawn i Gymru, ac ni chafodd y Pwyllgor anhawster i'w dderbyn.

Cofiaf y deiagramau a luniais yn ystod gwersi sych yn dangos union safle'r tanciau a sut y dylid clymu hen ddrws arnynt.

Cofiaf fel y byddem yn plastro menyn ffarm yn dew hyd-ddynt ac yna'r siwgr yn toddi'n ddi-rwgnach yn y môr melyn.

Ac eto cofiaf gryn lawer o dynnu'n groes rhyngddynt.

Roedd profiad o'r fath, a hynny oherwydd i feirniad gredu mai rhywun nad oedd yn gymeradwy ganddo oedd y cystadleuwr, yn brofiad digon annymunol ond gyda gwên ar ei wyneb y cofiaf y bardd ei hun yn adrodd yr hanes.

Ni fedraf eu henwi i gyd, ond cofiaf am rai ohonynt: Barbara Llwyd, Myfanwy Morgan, Mrs Thomas y Fron Goch a'i theulu.

Da y cofiaf Jim yn cwympo yn ei hyd wrth gario cydaid o lo ar ei gefn ac yn addo "medal fel plat cino Dydd Sul" i'm ffrind a finne am helpu i glirio'r llanast.

Rhag ofn i rai ohonoch feddwl am ddefnyddio llwch llif, ni fuasai'n syniad newydd, cofiaf y syniad o'i ddefnyddio yn orchudd rhwng planhigion yn tyfu gael ei weithredu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.

Nid oes yr un arall o'r penillion cynnar hyn ar fy nghof yn awr, ond cofiaf i Waldo ddweud fod ei chwaer yn fwy medrus nag ef yn eu llunio!

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Cofiaf iddo ddweud wrthyf ei fod wedi dechrau barddoni - yn Saesneg - pan oedd yn if anc iawn.

Cofiaf fy mod i a'm chwaer yn rhedeg i ben ucha'r ardd i edrych am yr angladd, ac yn rhedeg yn ôl i'r tŷ i ddweud fod y dynion yn dechrau dod.

Cofiaf yn dda hefyd am fy Nadolig cyntaf yn yr ysgol, a minnau'n saith oed erbyn hynny.

Cofiaf un hen wraig yn gofyn tuag at beth yr oeddwn yn 'clasgu' a minnau yn ei chywiro a dweud mai 'casglu' oedd yn gywir, a chael eglurhad gan mam ei bod hi'n gywir hefyd.

Cofiaf yn dda Wmffra, fy mrawd, yn hogyn tua deg oed, yn trechu pawb, hen ac ifanc, hefo'i stori fer.

Cofiaf un ferch yn cael ei tharo gan fws.

Fel ym mhob oes, cofiaf fod criw mawr iawn yn cystadlu yn yr oedrannau iau ond mai prinhau fyddai'r cystadleuwyr wrth fynd yn hŷn.

Cofiaf pan oeddwn i'n gweithio mewn bargen yn yr hen chwarel, roedd 'na ddau fachgen o Lanfairfechan wrth fy ymyl i.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!

Fe'i cofiaf yn dda iawn.

Cofiaf lond ffridd o'r pabi melyn sy'n gyffredin i'r Grisiwn ac i Gymru.

Cofiaf yn dda fy mod yn synnu ac yn teimlo'n glwyfedig nad oedd neb yn ymddangos yn cydymdeimlo â mi.