Hwyrach mai dim ond teidiau oedd gan y nofelwyr: wedi'r cwbwl dim ond gyda Daniel Owen yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf y dechreuwyd sgrifennu nofelau o ddifri yn Gymrag, ond roedd yna draddodiad hŷn o sgrifennu cofiannau y gellid tynnu arno.
Mam yn darllen cofiannau'r cewri Cymraeg a nofelau rhamantus Saesneg; minnau'n pori mewn meysydd gwleidyddol a stori%au byrion.
Y gwir yw ein bod, yn ein hanwybodaeth a'n hadwaith yn erbyn oes orgrefyddol, yn tueddu i ddibrisio crefyddwyr y ganrif o'r blaen, gan eu gweld fel pobl sych, anymarferol; bu'n well gan lawer ohonom eu gadael ynghwsg rhwng cloriau cofiannau ac esboniadau llychlyd ein siopau llyfrau ail-law.
Mae ei gynnyrch yn gyfartal hefyd o ran natur y gwaith a gyhoeddodd yn y ddwy iaith: ceir barddoniaeth, emynau, pregethau, ysgrifau, cofiannau, trafodaethau hanesyddol, gweithiau defosiynol, gwaith golygu, oll yn y Gymraeg a'r Saesneg.