Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cofiwn

cofiwn

Cofiwn am yr oriau maith, yr hamdden prin, a'r cyflog isel.

Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol.

Cofiwn am eu hanwyldeb, eu hiwmor a'u caredigrwydd.

Cofiwn heddiw gyda diolch am ymdrech a llafur arbennig y tadau i'w godi.

Ond cofiwn glywed rhai o'r bechgyn yn dweud eu bod yn gallu byw ar ychydig iawn yn y Bala; a meddyliwn y buasai'n dda gennyf gael dangos iddynt y gallwn i fyw ar lai na neb ohonynt.

Cofiwn am bren y bywyd a phren gwybodaeth da a drwg oedd yng ngardd Eden.

Yn ei waith fel amaethwr - y cofiwn Y cyfaill di-gynnwr'; Fel cloc rowndio'r stoc heb stwr A wnaeth nes methu neithiwr.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Ond cofiwn ferch o Bulgaria ddwy flynedd yn ôl yn canu'n ysgubol ar yr ail noson ac yn methu'n drychinebus ar y noson fawr.

Ar yr un pryd cofiwn mai o ranbarthau China y gwelir y twf economaidd cyflymaf ac i'r un wlad y perthyn y stôr mwyaf o lo yn y byd.

Cofiwn hefyd mai galwedigaeth ansefydlog oedd y weinidogaeth yn y cyfnod hwn, yn enwedig i'r sawl nad oedd ganddo ffynhonnell arall o incwm i'w gynnal ef a'i deulu.

Cofiwn amdano fel Gweinidog ymroddgar ac aelod gwerthfawr o'r Eglwys yng Nghefn Brith.

Er bod lleihau drafft yn fuddiol cofiwn bod angen newid aer ystafell ddwywaith y dydd cyn y gellir sicrhau digon o ocsigen.

Cofiwn yr ymdrech gynnar yn erbyn gwynt anarferol o finiog, y gollyngdod nad oedd eira anamserol llif Awst wedi lluwchio cymaint a hynny tua chopa'r bwlch, a'r wefr wrth weld y gwyngalch newydd pur yn diflannu i'r cymylau fel petai crib ddwyreiniol y Chuealphorn yn un o gyrsiau mawr yr Aplau.

Cofiwn hefyd, wrth gwrs, am gysegredigrwydd y fedwen gynt.

Wrth sôn am arwerthfa Llwyd Hendre Llan, cofiwn glywed am ŵr ifanc newydd briodi a mynd i fyw i Gastell Bwlch Hafod Einion, penty bychan digysgod ar y gefnen fwyaf rhynllyd ym Mro Hiraethog.

Cofiwn am droeon y bu acw dafodi pur hallt cyn hyn am imi wario'n ormodol ar lyfrau.