Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cofnod

cofnod

Fe'u cadarnhawyd ac fe'u harwyddwyd fel cofnod cywir.

Rhaid cynnwys cofnod o bob sesiwn, megis sesiynau labordy, darlithoedd, gweithgareddau cyfrifiadur, sesiynau agored yn y labordy a gweithgareddau'r tu allan i'r Coleg.

Mae cofnod ar gael sydd yn tystio i ffyddlondeb arbennig Hugh Evans, Ty'n y Gilfach, yn y capel hwn, pan nad oedd neb ond ef am gyfnod i gyflawni swydd blaenor.

Dylid gwneud cofnod gofalus o'r holl lyfrau a fenthycir.

ch) Hysbysu'r Cyfarwyddwr neu'r uwch aelod nesaf o'r staff am y digwyddiad gan gadw cofnod o'r holl fanylion er mwyn cyfeirio atynt.

Fe welwch y bydd y cofnod hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn cwblhau eich cynllun gweithredu.

Mae gwyddonwyr yn wastad yn cadw cofnod o'r cynlluniau ymchwil am y rheswm hwn, felly beth am i chwi wneud yr un peth?

nodwyd bod rhai o'r datganiadau a nodir yn y llyfrynnau cofnod yn anghyflawn, a bod hynny wedi ei ddangos gydag atalnodau ee gan fod llawer o'r datganiadau yn amlweddog y mae hyn yn naturiol, e.

Dylid gwneud y cofnodion yn fuan (o fewn diwrnod) wedi'r sesiwn.Bydd yr hyn a welir yn y ffeil yn dystiolaeth o'r Cofnod Cyrhaeddiad.

roedd llinyn mynegi safbwynt a barn wedi'i hepgor o'r llyfryn cofnod gan nad oedd yn cael ei asesu eleni.

Gellir defnyddio'r llyfryn hwn i ddarparu cofnod o'r trafodaethau yn ymwneud â'ch lleoliad.

Cofnod Cyrhaeddiad Dylai pob un o'r aseiniadau hyn gysylltu ag un neu fwy o'ch mannau Cofnod Cyrhaeddiad.

Mewn amrywiol lefelau o fewn y mawnogydd, mae cofnod o amodau tywydd y gorffennol ynghyd â ffurfiau diflanedig o fywyd gwyllt a hefyd weddillion dynol wedi'u cadw.

Enghraifft wych o hyn yw'r stori John Williams Tresalem, John Ford, Lillian Gish a D W Griffith sy'n adrodd hanes Cymro, John Williams, a aeth i'r Amerig i chwilio am well bywyd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ond na chafodd fawr o lwyddiant erioed, er iddo fod yn ecstra mewn ffilm fawr, gan adael cofnod ohono mewn hanes.

Gellwch chi gadw cofnod o'r ymchwil.

Gweler y Cofnod Swyddogol, 28 Mehefin 2000 a 4 Gorffennaf 2000.

Dylid sylwi hefyd nad yw'r cofnod yn dweud ai gelynion i'w gilydd, ai cynghreiriaid, oedd Arthur a Medrawd.

Meddylier er enghraifft am y cofnod hwn pan sefydlwyd Clwb Talsarnau.

Cofnod o'r seminar yw'r tudalennau sy'n dilyn, ynghyd â gwybodaeth pellach am ddefnyddiau ac asiantau priodol.

Bydd yr ieir yn aros rhwng deg a deuddeng mlynedd, ac y mae cofnod ple maent wedi aros yn hwy o lawer.

'Roedd ffilm wedi rhoi rhyfel y Boeriaid ar gof a chadw ond 'roedd ar fin creu cofnod parhaol o un o erchyllterau mwyaf yr ugeinfed ganrif.

Mae'r ysgrif Ladin a gerfiwyd arni wedi pylu'n enbyd ond gellir darllen y cofnod mai yn y fangre hon yr enillwyd Buddugoliaeth yr Halelwia yn ugeiniau'r bumed ganrif O.C Sut digwyddodd hynny?

roedd y gweithgor felly'n hollol fodlon bod cynnwys y llyfryn cofnod yn gyflawn ac yn gywir ac yn adlewyrchiad o asesu dilys.

Ar ôl i chwi gwblhau pob un o'r aseiniadau dylech ystyried pa mor bell yr ydych wedi mynd ymlaen i gyflawni un neu fwy o'r Cymwyseddau a ddisgrifir gan Y Cofnod Cyrhaeddiad.

Dyma'r cofnod: 'Erbyn y noson yma roedd y Gwpan Arian wedi cyrraedd.

Mae cofnod yn y DDolen am blant ysgol Ponterwyd wedi bod am drip yn Harlech gan fwynhau tocyn ar y lawntiau yn y Castell.