'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.
Mi gafodd rhai eu colbio ar gam." "Pwy oeddan nhw felly?" "Mae hi'n gyfrinach aiff hefo fi i'r fynwant.
Yr adwaith, fel arfer, oedd colbio'r trueiniaid yn y ddwy res flaen gyda darn o bren a ddigwyddai fod yn gyfleus.