Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coleddu

coleddu

Os yw'r rhyfel yn cael ei ymladd dros frenhiniaeth annemocrataidd sy'n coleddu agweddau tuag at drosedd a chosb, hawliau merched, a rhyddid yr unigolyn sy'n atgas i'n diwylliant ni, fe ddylai'r cyhoedd gael gwybod hynny hefyd.

Nid oedd fawr o debygrwydd felly y byddai brenhinoedd Sbaen yn coleddu'r heresi newydd ac 'roedd ganddynt bob cymhelliad i lynu wrth eu hen ffyddlondeb.

Un o drychinebau'r sefyllfa bresennol yw bod y ddwy garfan hyn, er yn coleddu'r un nod, yn mynd i amau cymhellion a dulliau ei gilydd, a bod hynny yn ei dro yn esgor ar elfen o anoddefgarwch yn agwedd y naill at y llall.