Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.
Yma hefyd y crewyd sain unigryw Corau'r Rhos, y lle yn ysgwyd dan gyfaredd lleisiau coliars, yn carthu llwch a thywyllwch y pwll glo o'u heneidiau.