Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

comiwnyddiaeth

comiwnyddiaeth

`Roedd clasuron Comiwnyddiaeth,' meddai un economegydd ifanc, `yn dangos sut i fynd o sustem breifat i sustem gomiwnyddol.

Nid llai amrwd yw ymadrodd fel 'ymlediad heddychol comiwnyddiaeth'.

'Os gall hwnnw ddadfeilio comiwnyddiaeth drwy'r Undeb Sofietaidd, fe ddylai fod yn bosib i ni wneud yr un peth i Beronistiaeth yn y wlad hon,' meddai Menem.

Mwy peryglus nag ymlediad heddychol comiwnyddiaeth.

Ni ddiffinnir ystyr y gwahanol dermau a ddefnyddir: Comiwnyddiaeth, Marcsiaeth a Sosialaeth.

A hefyd, gan ei fod wedi blino ar fyw heb ennill ei damaid fel myfyriwr, mae Comiwnyddiaeth hefyd yn fodd i'w ryddhau o'i waith ymchwil a dychwelyd i'w ardal i weithio ar y ffordd.

Mynycha barti%on lle mae cyfoethogion y ddinas honno yn trafod comiwnyddiaeth fel petai yn rhan o'r ffasiwn diweddaraf o Milan: rhaid ei groesawu ond dim ond tan i'r casgliad nesaf ymddangos.

Meddyliwr radical ydoedd ef, a ysgrifennodd yn helaeth ar ryfel a heddwch, comiwnyddiaeth a chyfalafiaeth, y bom hudrogen a dyfodol dyn, a chenedlaetholdeb a rhyng-genedlaetholdeb.