Un tro, tra'n teithio mewn bws o Luimneach i Tra/ Li, safodd y bws mewn tref fechan, a dyma'r gyrrwr yn sefyll yn y blaen a chyhoeddi wrth y teithwyr "There will be a short wait of about twenty minutes to wait for a connection", ac allan â fo o'r bws.
Es ato am sgwrs ac mi ddywedodd: "There's no connection, it's just that it's thirsty work driving the bus." Ar ôl gorffen yfed, aeth y ddau ohonom i'r bws a pharhau'r daith - heb neb yn cwyno nac yn holi cwestiynau.