Pan ddisgrifir Duw nid yw'r ansoddair yn cyfleu unrhyw fath o synwyrusrwydd; rhai 'haniaethol' sy'n consurio mawredd ydynt yn ddi-feth.
Yr un llywodraethol yw'r Mynegol sy'n consurio pendantrwydd.
Ni fynnwn honni am eiliad fod Morgan Llwyd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o leiaf, yr oedd ei reddfau llenyddol yn ddigon cadarn i sicrhau fod pob ystyriaeth ramadegol yn cyd-uno i ddiogelu'r effaith a'r dôn y mynnai eu consurio.