Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cor

cor

Canu can y cor a wnaeth Elfed, a gwneud hynny'n argyhoeddiadol urddasol; a gosododd ei batrwm yn gynnar.

Erbyn bod y côr ar y llwyfan am saith mae chwe chant a mwy o bobl yno yn disgwyl yn eiddgar yn y gwres wedi eu harfogi â hetiau rhag yr haul ac wedi chwistrellu eu hunain rhag mosgitos ffyrnig.

Un o wrthwynebwyr y prosiect yw'r hanesydd lleol Dilwyn Miles a fu'n dadlau'n gryf nad oedd y siwrnai yn adlewyrchu'r sefyllfa yn Oes y Cerrig gyda'r cychod, er enghraifft, yn rhai llawer gwell na'r rhai a fyddai ar gael i adeiladwyr Côr y Cewri.

Dyna ddechrau cyngherddau'r corau mawr yn Stiwt - Cor Edward Jones, Cor Jonh Owen - a champweithiau megis yr 'Elijah', 'Hymn of Praise', 'The Creation'.

Nid unawd enaid yw emyn, ond rhan o gytgan cor nas gall neb ei rifo na'i weled gyda'i gilydd - ond Duw.

Defnyddiodd, a chamddefnyddiodd Llewellyn, rythmau siarad a ffurfiau gramadeg yr iaith Gymraeg yn ei Saesneg, ond y gwir amdani yw na ellir clywed yr iaith yn sŵn canu'r cor meibion, y newyddion Cymreig hwnnw sy'n gwneud y tro yn lle iaith, diwinyddiaeth ac yn rhy aml gerddoriaeth, ond sy'n dal i gyffrwrdd a'r galon.

Ar ben hynny, dydi bws arferol y côr gyda'i thy bach a'i pheiriant coffi ddim ar gael.

Cor y cewri mewn llestr ddŵr!

Fel "trefniant gwerinol" o offeren y Nadolig y disgrifiodd un aelod o'r côr ef i mi.

Yn ôl ar y llwyfan ar ôl bwyta y mae llawer iawn mwy o aelodau'r côr yn gwisgo ponchos.

Pan oeddwn yn byw ym Mangor yr oedd Ffrancon Thomas yn byw mwy neu lai dros y ffordd i ni yn Orme Road a chofiaf yn dda amdano yn cerdded yn fan ac yn fuan i ddal y bws i Fethesda bob nos Lun i ymarfer y Cor.

Dewch i wybod mwy am y côr cymysg campus hwn a sut i ymuno.

Mi fydd rhai yn dal i ddadlau bod canu cerdd dant bellach yn draddodiad hen ffasiwn ond mae'n denu pobol ifanc fel aelodau côr cerdd dant Aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Fel mae'n digwydd, mae'r Cor Meibion yr wyf yn aelod ohono, sef Cor Bro Glyndŵr (er mwyn y troednodwyr), yn canu gosodiad Bryceson Treharne o soned 'Dychwelyd' TH P-W; gosodiad teilwng, greda i, sydd yn llwyddo i danlinellu grym y soned ac i gyfleu dehongliad cerddorol o un JR ar ddiwedd ei ymdriniaeth.

Mi fydd hi'n ffresio cyn bo hir," proffwyda gwraig leol gan ddefnyddio'r gair Cymraeg lleol am oeri - ond mae'n anodd credu hynny mewn gwres sy'n lladdfa i'r aelodau o'r côr sy'n gwisgo ponchos.

Diflannodd y perthi o dan orchudd o flodau gwyn, agorodd y blodau eu petalau, ac yn y bore bach canai cor yr adar gyda arddeliad.

Mae hi'n nos erbyn i'r côr orffen canu a chael gwybod y bydd yn rhaid gwneud yr un peth unwaith eto yn dilyn seibiant o hanner awr.

'Roedd partion eraill - Y Clarion, Gwalia ond y mwyaf arbennig a disglair efallai oedd Cor Offa, neu Gor Joe Bel.

Yr apêl honno sy'n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o'r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.

Bu'r oedi yn gyfle i Cura a'r Côr ymarfer ambell i ddarn a rhannu ambell i jôc wrth iddo chwarae'n bryfoclyd â'r gynulleidfa.

Mae Cor Meibion y Rhos, Cor Meibion Ponciau yn dwyn i gof gampau Ben Evans, Edward Jones, John Owen Jones a John Glyn Williams.

I gefnogi hyn mae yn gobeithio y bydd Côr Meibion Treorci a drymwyr y Ffiwsilwyr Cymreig yn dod allan yma yn ystod yr Wyl a thrwy hynny dynnu sylw at Gymru a'r cwmniau Cymreig sydd yn y rhan hon o'r byd.

Nid ei lais yw unig apêl pedwerydd tenor gorau'r byd gan iddo ennill calon sawl un o ferched y côr hefyd.

Uwchben y côr mae aderyn yn canu nerth esgyrn ei ben yn uchel ym mrigau coeden.

Ac, yn wir, mae hi yn ffresio a phobl yn dechrau tynnu eu cotiau yn dynnach amdanynt a'r gwisgwyr ponchos yn y côr yn diolch am gynhesrwydd y dilledyn.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!

Roedd y llwyfan wedi troi'n ogof hud a lledrith, lle'r oedd holl gymeriadau hoffus a hardd y Nadolig, yn goed ac adar, tylwyth teg, angylion, cor a Sion Corn ei hun yn ein swyno a chreu naws y tymor gydag amrywiaeth hyfryd, hyd at uchafbwynt y cyfan yn nrama'r Geni.