I newyddiadurwr o'r Gorllewin yn cyrraedd gwledydd y Baltig yn y cyfnod hwnnw, chwe mis ar ôl iddyn nhw ennill eu hannibyniaeth lawn, roedd un peth ar ôl y llall yn corddi teimladau a barn.
Hyd yn hyn mae'r gyfres wedi teithio i bob cwr o Gymru ac wedi trafod yr holl bynciau llosg syn corddi y Gymru wledig ar Gymru drefol.
Un o nodweddion mwyaf atgas y criw gwrth-Ewropeaidd sydd yn y Senedd ar hyn o bryd yw y senoffobia sydd yn eu corddi.
Buasai'n dda iawn gennyf gael eich gweld i gael sgwrs am wahanol bethau sydd yn fy nghorddi i, ac yn ddigon tebyg yn eich corddi chwithau y dyddiau hyn.
Y mae'r ffordd y bu'r papurau tabloid yn ystod y dyddiau diwethaf yn corddi teimladau rhagfarnllyd tuag at yr Almaenwyr yn ernes o'r ysbryd milain tuag at wledydd Ewrop sy'n peri i ddyn ofni dylanwad rhai o'r carfannau adain-dde yn Lloegr.
Gwyddom ninnau am beryglon gaeaf - am y rhew caled sy'n dod â rhyndod ac angau i'r hen, neu'r gwyntoedd nerthol sy'n corddi'r môr a pheri iddo orlifo'r tir.
Cer di ddigon pell 'ta, Morys Wyllt, dos, draw am y traeth â chdi lle galla'i dy weld di'n corddi'r tonnau.
Am y dywaid ynddo, 'Nad ydyw Crist i'w addoli fel Cyfryngwr'." Serch hynny, y mae achos i amau fod y statws cymdeithasol a roddwyd i'r offeiriad, fel gŵr dysgedig, ac felly fel bonheddwr, yn corddi enaid Hugh Hughes gymaint ag oedd cwestiynau diwinyddol o'r math.
Byddai'r llestri a ddefnyddid i wneud menyn yn siwr o gynnwys rhywfaint o'r pren gan fod gwrachod yn enwog am eu gallu i rwystro corddi.
Winciai'r goleuadau bach yn eu miloedd arno a theimlai ei du-mewn yn corddi.
Ni fynnai gerdded y bwrdd efo Merêd i fwynhau'r awel dyner a gwylio brig y llong yn corddi adlewyrchiad y lloer yn fyrdd o fflachiadau arian.
Mae Ceri wedi dilyn 'Nhad; byddai yntau yn corddi geiriau yn dragwyddol.
Llwyddodd Sara Maredydd, merch ddwy ar bymtheg oed o Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi, Machynlleth i greu cymeriad oedd yn hawlio ein dicter a'n cydymdeimlad ac oedd yn corddi ein hemosiwn.
Ac mae'r beirdd wedi bod yn brysur yn corddi'r dyfroedd hefyd wrth gwrs.
Cynhesrwydd yn eich corddi i gyd, a'r creigiau yr un fath.