Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

coridor

coridor

Cefais lonydd i gilio i'r coridor tywyll wrth ymyl y gegin, i atal y ffrwd o'm trwyn ac i lyfu 'nghlwyfau.

Daeth y flwyddyn â dau ddatblygiad cyffrous i BBC Radio Wales - lansio ei opera sebon ddyddiol gyntaf a thonfeddi FM newydd ar draws coridor yr M4 a Gogledd Cymru, gan roi derbyniad gwell.

Brysiodd y plant eraill i gyd o'r coridor ac i'w gwersi fel llygod.

Mae llwybr uchaf Afon Ceint yn hynod o syth ac yn llenwi coridor a gerfiwyd, fel y dangosodd Embleton, gan ddwr tawdd yn y cyfnod yn union wedi'r rhewlifiant.

Yna daeth atsain isel certiau trydan rywle ym mhellter y coridor.

O'r diwedd cyrhaeddodd y coridor cul a arweiniai at y drws.

Canodd cloch yn sydyn ac uchel yn y coridor y tu ôl iddo.

Wedi gorffen ei ginio, prysurodd allan i'r coridor.

Ewch drwy'r drws yna ar y dde ac i lawr y coridor i'r pen draw.

Safwn yn un o encilfannau coridor yr athrawon yn edrych ar haul y pnawn yn taro ar yr adeiladau o amgylch y cwad mewnol.

Agorais ffenestr y coridor a theimlo'r gwynt yn oer.

Caeodd ei dad ddrws y cartre a chychwynnodd y teulu'n ddistaw ar hyd y coridor hanner tywyll.

Rhoddir enw arall hefyd ar un adran arbennig o'r coridor uwchben Llyn Pwmp, sef Nant Stirrup.

Gorweddai yno'n syfrdan, ei grys am 'i ganol a'i din a'i geillie briw yn destun gwawd hiliol i ambell wag a eisteddai gerllaw yn y coridor.

Yn fuan daeth cert fechan drydan ar hyd y coridor.

Mae'r Awdurdod wedi bod yn ceisio newid yr agwedd taw dim ond cwmnïau tramor sy'n cael help ganddyn nhw - a hynny yn ardal coridor llwyddiannus yr M4.

Gafaelodd yn dynn yn fy mraich a'm harwain i fyny grisiau y gwesty ac ar hyd coridor hir.

Agorodd rhagor o ddrysau gerllaw ac ymunodd teuluoedd eraill gyda nhw i gerdded yn rhibidrês ddistaw tua phrysurdeb y coridor mawr.