Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

corn

corn

Yn ôl John Cottle, sydd wedi plannu hadau GM ar ei fferm yn Sealand, mi fydd o'n parhau i dyfu'r corn nes y bydd yn cael cyfarwyddyd gan y Cynulliad neu lys barn.

Mae Ewrop wedi rhoi hawl i dyfu'r corn GM a gall felly ei dyfu fel arbrawf yn unrhyw le ym Mhrydain.

Roedd y plant, mab a merch, wedi aros ar ddi-hun, nid i geisio dal Sion Corn ond i weld os oedd asyn y teulu'n cydymffurfio â'r stori.

Yn nhymor yr ŵyn gwelid mynaich lleyg Abaty Aberconwy yn yr hafotai hwnt ac yma, a draw tua Moel Fleiddiau a Moel Cibau yr oedd sŵn corn yr helwyr yn darogan fod rhyw newydd yn y tir.

Yr oedd dau o blant eraill ar yr aelwyd erbyn y Nadolig nesaf a ddaw i'm cof, ac fel pob bore Nadolig lle mae plant bydd helynt a stŵr a llanastr yn dilyn ymweliad Siôn Corn.

Mae'r bladur, y gribin, a'r bicfforch yn segur ers tro, ac mae'r trowr rhaffau, y stric a'r corn grit ar gyfer hogi yn rhan o gelfi crôg ystafell y gegin erbyn hyn.

Ar y ail chwythiad o'r corn roedd pawb yn tanio'r fuse ac yn mynd yn bur frysiog at y dynion eraill i wardio.

Cof plentyn yn unig oedd ganddi amdano a'r cof hwnnw'n ddelwedd o ryw Siôn Corn, un a ddeuai ag anrhegion iddi, ac a arhosai am gyn lleied o amser nes gwneud pob ymweliad yn ŵyl.

Ceisiasom bopeth - twrci mawr a'r holl addurniadau a âi gydag ef, coeden Nadolig nobl a sacheidiau gan Siôn Corn.

Mae gwaith fel hyn dipyn yn newydd i chi, ond yr ydw i wedi hen arfer â fo.' Wedi dweud hyn, symudodd Ernest i siarad â rhyw sbrigyn o fonheddwr, a dywedodd yn rhy isel i Harri allu ei glywed: `Mi wna i i'r d l ene dorri corn ei wddw neu gorn gwddw ei geffyl cyn canol dydd.' Canodd y corn, ac ymaith â'r cŵn, a'r marchogion yn eu dilyn.

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.

Yn wir, ni hidiai'r golygydd fotwm corn a gâi'r Ymofynnydd ei got yn ôl ar ei gefn ai peidio, oherwydd nad 'wrth ei glawr mae adnabod cylchgrawn', ac os y byddai gweld yr hen ŵr heb ei gôt 'yn foddion i rywun dynnu ei gôt a thorchi ei lewys', ni byddai neb yn hapusach nag ef.

'Paid a phoeni am y pres Mam, mi ofynna'i i Sion Corn.'

Yn y bore daeth Siôn Corn yr ysbyty heibio i bawb, ac i'r rhai a gollodd eu baban yr oedd ganddo hances boced, ychydig o siocled a gair o gydymdeimlad a chysur.

Yr wyf yn cofio mai'r Parchedig Eric Grey, rheithor Brechfa, Abergorlech, a Llanfihangel Rhos-y-corn ar hyn o bryd, a'n derbyniodd i'r maes parcio ceir, ac imi lawenhau o sylweddoli ei fod yn ŵr mor gyfrifol yn ei berthynas â'i dreftadaeth genedlaethol.

Yna, ar yr awel a oedd yn dod o gyfeiriad y chwarel, clywyd corn pedwar yn seinio.

Taniwyd peiriant y cerbyd a chychwynnodd i'w daith, a deunod undonnog y corn yn gwneud Smwt yn lloerig unwaith eto.

Troes oleuni rhybudd y lori ymlaen a rhoes ei law ar y corn.

Drwy ddefnyddio y corn siarad gellid cael ymgom efo'r meddyg ac yntau yn ei wely!

Gwyddent yn iawn beth oedd ystyr y corn yn canu i ddweud fod diwrnod gwaith ar ben, ac mae cof o hyd am geffyl a weithiai yn Chwareli'r Oakeley, pan ollyngid ef o'r tresi ar ganiad y corn, yn mynd ar hyd rhan o'r chwarel a thrwy y Lefal Galad, yna dilyn Llwybr y Ceffylau oedd yn mynd dros geg y Twnnel Mawr, i lawr i'r ffordd fawr ac i'w stabl yn y Rhiw ac at y minsiar heb neb wrth ei ben i'r dywys.

Roedd 'corn pedwar' yn golygu iddo ef fod ei ddiwrnod gwaith ar ben!

Bydd hon yn gosb am beidio â gwisgo gwregys; gorlwytho cerbyd; defnyddio'r corn liw nos; anwybyddu arwyddion ffyrdd, ac ati.

Daethant, hefyd, i ardal Maesteg i weld ein llecynnau hanesyddol megis Y Forge a Corn Stores ac wrth gwrs Llangynwyd a'i drysorau.

'Blydi iypis Cymraeg,' gwaeddodd y llabwst i gyfeiriad sŵn corn siarad a ddeuai o ganol y dref.

Mae pethau'n dechrau pan fo'r gwr efo corn siarad yn cyrraedd.

Mae o'n cydio yn Armin a Chalfin ac yn cerdded ar flaen ellyn rhyngddyn-nhw.' Dywedir rhywbeth tebyg am William Roberts: ''Does gan William Roberts ddim amcan am ddiwinyddiaeth gyfundrefnol a 'dydy o'n malio dim botwm corn am resymeg na chysondeb y Ffydd.

Trywanwyd ei harchwiliad gan sŵn corn y mini tu allan.

Y mae'r caeau India-corn a siwgwr a reis yn ymestyn allan filltiroedd o'r pentref ei hun - yn wir, cyn belled a'r pentref nesaf.

Erbyn heddiw y mae hyfforddiant arbennig ar gael i Shonis Corn.

Byddai Santa a Siani Corn yn teimlon gartrefol iawn yn ein ty ni am y pythefnos nesa.

Er i Luke Staton sgorio i'r Barri ychydig cyn yr egwyl a'r eilydd Marvin Blake yn cael un arall cyn y diwedd roedd Wrecsam yn feistri corn.

Yna, cyn gynted ag y canai'r corn, cymerent y wib fel haid o waetgwn i lawr y ffordd haearn ac i'r mynydd.

Er enghraiffl, dangosir ar un dudalen lun o ffarmwr yn rhoddi ffisig i'w ych drwy ddefnyddio corn buwch i ddal y diod.

Hen stori ydy honno am Albanwr yn mynd allan efo'i wn, yn saethu i'r awyr ac yna'n dweud wrth ei blant bod Sion Corn wedi ei saethu ei hun.

Roedd y llwyfan wedi troi'n ogof hud a lledrith, lle'r oedd holl gymeriadau hoffus a hardd y Nadolig, yn goed ac adar, tylwyth teg, angylion, cor a Sion Corn ei hun yn ein swyno a chreu naws y tymor gydag amrywiaeth hyfryd, hyd at uchafbwynt y cyfan yn nrama'r Geni.

Roedd twll y corn simdde'n enfawr a'r tân coed islaw yn taflu goleuni coch mewn cylch bach.