Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cornel

cornel

Mewn cornel, ar yr un ochr i'r lle tan, yr oedd desc uchel o dderw, a lle i gadw llyfrau, a chaead ar y rhan ddefnyddid i sgwennu.

Steve Eaves fydd yn ymddangos ar y llwyfan, ac mae'r tocynnau ar gael am £4 o Siop Cwpwrdd Cornel, Llangefni ac o Awen Menai, Porthaethwy.

Wrth droi cornel o'r llwybr daw'r pen pellaf, o'r penrhyn i'r golwg, golygfa syfrdanol.

Drwy dderrbyn yr alwad hon byddai'r Blaid Lafur hefyd yn rhoi William Hague mewn cornel.

(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.

Mewm un cornel o'r stafell y tu ôl i un o'r pileri, roedd mintai fechan o ddynion wedi troi'u cefnau ar y dawnswyr ac yn crynhoi eu sylw ar y dis bach du a gwyn a daflwyd gan y naill ar ôl y llall ar y bwrdd.

Ymddangosai mai'r ateb oedd cael rhediad o bibellau a'u gosod oddi wrth y rhan a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer chwaraeon, mewn cornel o'r iard chwarae.

Hynny yw, cornel ar gyfer llyfrau a fu'n cael llawer o sylw yn y papurau newydd ac ar y teledu ar radio ac ati.

Mae ongl yr eglwys ychydig yn wahanol yn yr un ffordd - cornel dywyll y tu ôl i'r eglwysi yn goleuo at yr ochor arall a gwyrdd llachar y gwellt o flaen y ddwy.

Gollyngodd Andrews y ffôn yn sydyn a thaflu'r car o amgylch cornel sydyn.

"Y cyfan rydw i ei angen yn awr ydi cornel fach glyd i roi fy mhen i lawr." "Mae'na le yn y stabal," meddai'r tafarnwr yn gyndyn, ond heb feiddio edrych ym myw llygaid tywyll y cardotyn.

Trodd y cornel i Ffordd Pen-nant a bu bron iddo gael ei thaflu ar ei chefn gan ddau fachgen yn sglefrio heibio.

Aeth i'r stabal a chwalu dipyn o wellt glân mewn cornel yno.

Ar y cornel roedd ffenestr siop, heb neb ar ei gyfyl.

Sleifiais i fyny i ystafell yr athrawon, ac eistedd mewn cornel dywyll y tu ôl i'r drws.

Mae cyfrifoldeb mawr ar y cornel.

Fe ffonia i 'nôl.' Chwarter milltir o'i flaen, diflannodd Sierra glas Davies o amgylch cornel wrth i ddarn syth o ffordd ddirwyn i ben.

Nid ymatebodd Gareth, ac wedi taflu golwg sydyn ato, trawodd Adam ef unwaith eto cyn ymbalfalu am y llyw wrth i'r car sgrialu o amgylch cornel siarp yn y ffordd.

Nid oedd hyd yn oed Moi Mastia a Wil Gruffudd yn eu cornel yn trwsio rhwydau ac yn rhoi'r byd yn ei le.

Yr oedd yno le tan mewn cornel, ac ar yr ochr dde iddo yr oedd sofa.

gwaeddodd Gareth, wrth i ben ôl y car weu'n wyllt o amgylch cornel arall.

Edrychodd i fyny'r stryd a gweld car heddlu'n troi'r cornel.

Pennu cornel arbennig yn benodol ar gyfer y bobol hyn sy'n ystyried eu hunain mor bwysig eu bod yn haeddu ffafrau arbennig.

Gallai eu clywed yn giglan wrth iddyn nhw droi'r cornel.

Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Teulu'r Cwpwrdd Cornel.