Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

corrach

corrach

Anfonir Edern i Gaerllion yn enw Geraint i wneud iawn am sarhad y corrach i forwyn Gwenhwyfar, ac yna yn eu tro fe gyrraidd Geraint ac Enid hwythau.

Roedd un yn gwneud ichi grebachu, ac edrych fel corrach, ac un arall yn eich gwneud yn hir a main fel coes brws.

Ond mae'r corrach yn synhwyro bod rhywun yn cuddio yn ymyl y llwybr ac mae e'n troi i'th herio â'i gleddyf yn ei law.

Diolchant i ti am ddal y corrach ac fe gesgli mai dianc rhagddynt hwy oedd ef.

Edifarhaodd na fuasai wedi prynu'r ceffyl nychlyd y cafodd ei gynnig y noson gynt, ceffyl perchennog y tŷ yfed, y corrach cringoch hwnnw.

Camodd corrach tew ymlaen gan sefyll o fewn ychydig gamau i Henedd, a gariai'r cwdyn gwerthfawr.

Mae caredig ferched Jeriwsalem yn arfer paratoi'r diod hwn a'i roi yn hael i'r rhai sy'n mynd i'w tranc." A synhwyrodd rhywrai o wragedd Bwlchderwin felly fod y cawr wedi rhoi un dan y belt i'r corrach?