Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cors

cors

Wedi deffro yn y bore, roedd yn bwrw fel o grwc ac unwaith eto, y lle fel cors.

O'r diwedd rwyt wedi gadael Cors y Cedyrn ac mae'r gwastadeddau o'th flaen yn edrych yn hyfryd.

Islaw Pont Llangefni mae'r afon yn llifo'n araf a dioglyd ar draws Cors Ddyga a Morfa Malltraeth i'r môr.

Cof gennyf o deithio droeon i Sir Fôn yn ystod y pedwardegau i wylio adar, ac uchafbwynt ymweliad berfedd gaeaf fyddai taro heibio Cors Cefni i gael golwg ar y Gwyddau Dalcenwen fyddai'n treulio rhan o'r gaeaf yno.

Rhaid oedd i ni gyrraedd Sipi erbyn tua phedwar gan i'r glawogydd mawr ail-ddechrau fel cloc yr adeg yma ac amhosibl fyddai symud wedyn - byddai'r lle fel cors.

Mae'r llwybr isa'n llifo ar draws Cors Ddyga.

Yn hytrach nag anelu'n union at y garnedd mae'n werth gwyro rhyw ychydig i'r dde er mwyn osgoi mawnogydd gwlybion Cors yr Hwch a Blaenrhiwnant.

Cors anferth yn llawn anifeiliaid gwyllt, a thir brown cochlyd na welais liw tebyg iddo erioed.

Nid un o hil ddaearol a ddichon weld cors a dwy frân a'u galw'n moorland with excellent shooting.

Wedi ei chanmol i'r entrychion gan y beirniaid a'i gwelai yn dorriad gwawr newydd y nofel Gymraeg cafodd darllenwyr cyffredin a drodd mor awchus tuag ati eu hunain mewn cors o ddryswch.

Mae'r tiroedd gwlyb sydd dan fygythiad yn cynnwys tir gwelltglas yn Ynys Môn, Pen Llŷn a Lefelau Gwent a chorsydd megis Cors Fochno a Chors Caron.