Tan yn gymharol ddiweddar yr oedd yr iseldir corsiog hwn yn ymestyn o'r dref i'r môr, yn fath o aber eang i Afon Cefni, aber yr oedd ynddo lanw a thrai, ac a rannai Fôn yn ddwy, Sir Fôn Fawr a Sir Fôn Fach.
Ni fedrent deithio'n gyflym gan fod y tir corsiog yn arafu eu camau ond cyn hir daethant at gysgod llannerch o dderi ifanc.
Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.