Ni thâl ach ddiledryw heb ddoniau cynhenid i'w hanrhydeddu, na theulu heb urddas y bywyd gwâr grasusol i'w gynnal, sef y gras cynhenid (grazia) a amlygid gan Castiglione yn ei Il Cortegiano.
Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.