Heb driniaeth (sef dognau beunyddiol o cortison, neu gyffur tebyg) ceir llesgedd a nychdod, ansefydlogrwydd emosiynol, difaterwch ac iselder ysbryd.
Achosir clefyd Addison gan nam yn y chwarennau uwcharennol sy'n cynhyrchu cortison.
Ond, mae'n bwysig iddo gael y dos cywir o cortison; os rhoddir gormod, mae'r claf yn debyg o fynd i gyflwr o orfoledd lle y mae'n oroptimistaidd, yn orhyderus, yn rhwyfus ac yn orsiaradus.
Ni ellir bod yn sicr bellach, wrth gwrs, bod newid mewn mwd, a achoswyd gan cortison, wedi amharu ar benderfyniadau Kennedy pan oedd yn Arlywydd.
Y mae effaith cortison yn y cyflwr hwn yn ddramatig.