Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cosmos

cosmos

Yn ein rhan ni o'r cosmos mae un math o ronynnau, ond y mae'n bosib canfod a chynhyrchu gwrth-ronynnau (electron/positron) ac fe ddichon bod nifylau a galaethau i'w cael rywle yn y gofod wedi eu gwneud o chwith-fater neu wrth-fater.

Yr un pryd dylid cofio nad llonyddwch yw nodwedd gronynnau sylfaenol y cosmos.

Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.