Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

costio

costio

Y mae'r bos yn dweud y byddai'n costio ddwywaith gymaint i ymsefydlu yn Llundain.

Daeth chwarelwr if anc go uchel ei gloch i mewn, ac meddai, er mwyn cael tipyn o hwyl ar draul Francis, 'Mae nhw'n deud i mi, Francis, fod pob carreg sydd yn y twr 'na wedi costio punt i Assheton Smith.'

'Mae cŵn yn costio,' meddai Mam yn bendant, 'ac mae'n ddigon anodd cael deupen y llinyn ynghyd fel ag y mae...'

Cynllun Conwy sy'n costio £34m oedd y mwyaf o'r pump.

O edrych ar hyn o olwg arall, ar ôl treiglad o bron ugain mlynedd, yr oedd rhywbeth yn costio degswllt wedi dyblu'i bris yn bunt.

"Yr oedd yr hen orsaf wedi disgyn o dan y safon ers llawer dydd ac os oedd gorsaf newydd am gael ei hadelladu, yna'r amser gorau i wneud hynny oedd tra bod y gwaith ar yr ysbyty ei hun yn cymeryd lle." "Os buasai'r orsaf yn cael ei hadeiladu ar ôl i'r ysbyty newydd gael ei hagor, buasai ail-wneud cynlluniau, rhoi y gwaith allan i dendar a'r anhwylusder trafnidiaeth ar y safle yn golygu y buasai wedi costio mwy na'r angen.

Os cedwir llyfrau costio ar wahân, y mae'n bwysig eu bod yn cael eu cysoni â'r llyfrau ariannol; oni wneir hyn, y mae yna berygl i gamgymeriadau lithro i mewn.

Roedd yr actorion Danny Devito, Sean Connery a Goldie Hawn ymysg y 250 o deulu ac enwogion yn y seremoni oedd yn ôl y sôn wedi costio £1.2m.

Cyfrifon Costio a'r Cyfrifon Ariannol

Mi fydd hyn yn costio miliynau o bunnau i gwmni BNFL Magnox.

'Roedd siwgwr yna arfer costio punt y kilo, dyweder, ond rwan mae kilo yn costio can punt!

Mae'n gwneud i mi edrych yn ffŵl yn fy mhalas fy hun ac yn costio ffotiwn i mi.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy yn gofyn beth oedd cynlluniau'r Cyngor ynglŷn â dyfodol y safle a'r peiriannau sydd wedi costio yn ddrud i drethdalwyr Dwyfor.

Yn enwedig y rhieni hynny y maen costio mor ddrud iddyn nhw roi eu plant drwy goleg er mwyn i'w plant gael gradd mewn rhywbeth gwerth chweil fel David Beckham.

Ond rydych chi'n anghofio, gyfaill, ei bod hi wedi costio'n ddrud ddychrynllyd iddo Fo i'ch codi chi o bwll pechod ac anobaith.

Nid oes pwynt mewn dyblygu gwaith drwy gadw ail set o lyfrau i bwrpas costio os gellir cael y wybodaeth o'r cyfrifon ariannol, gydag efallai ychydig o gofnodion ychwanegol.

Mae tâp fideo yn costio llawer llai na phris ffilm.

Mae nhw'n ofni y byddai'n costio arian iddyn nhw." Mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno strategaeth newydd y flwyddyn nesaf i helpu digolledu'r anabl ac unrhyw ddarpar gyflogwyr.

Y mae cymaint o waith dadansoddi'r gwariant a'i briodoli i'r gwahanol dasgau nes ei bod yn amhosibl i'w cynnwys yn y llyfrau; dan yr amgylchiadau hyn, y mae'n rhaid cadw set o lyfrau costio ar wahân i'r cyfrifon ariannol.

Trwy ddefnyddio cynllun costio, y mae'n bosibl mesur cyfraniad y gwahanol adrannau i'r elw a wneir.