Y buddugol yn ein cystadleuaeth arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr yw Linda Davage, Brook Cottage, Little Mill, Pont-y-Pwl.
Pe baech chi neu fi, neu'r Archdderwydd a Gorsedd y Beirdd gyda'i gilydd, yn gweld bwthyn uncorn a chwt mochyn ynghlwm wrth ei dalcen, ni chaem fyth mo'r fath Niagara o ysbrydiaeth a'n galluogai i'w ddisgrifio'n charming cottage with scope for a sideline in productive enterprise readily accessible outbuildings.
Dyna bosteri hysbysebu'r Bwrdd Glo wedyn, oedd yn boblogaidd iawn ar ddechrau'r wythdegau cyn iddyn nhw gau'r pyllau glo i gyd - "Come Home to a Real Fire% rhywun wedi ychwanegu "Buy a cottage in Wales".